Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth
ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i
Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd
Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal
y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a
ganlyn: Dydd
Mercher 8 Hydref 2014 - ·
Cynnig i
ddiddymu Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr
(Cymru) (Dirymu) 2014 (30 munud) Dydd
Mercher 22 Hydref 2014 - ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei Ymchwiliad i Gynigion
Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer –
Lynne Neagle (Torfaen) (30 munud) |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Adolygiad o Reol Sefydlog 30A - Cydsyniad mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU Cofnodion: Ym mis
Hydref 2013, cytunodd y Cynulliad i ddiwygio Rheol Sefydlog 30A ar gydsyniad
deddfwriaethol i offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU. Yn ei
gyfarfod ym mis Gorffennaf 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r broses
ymhen blwyddyn. Cytunodd y Rheolwyr Busnes nad oes angen adolygu Rheol Sefydlog
30A ymhellach ar hyn o bryd. |
|
Unrhyw Fater Arall Nododd y
Llywydd bod posibilrwydd y bydd gweithredu diwydiannol ar 15 Hydref. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drafod ail-drefnu busnes yn y cyfarfod nesaf a phenderfynu ar
sut i ymateb bryd hynny. Holodd Elin
Jones am gyfrifoldebau gweinidogol y Dirprwy Weinidog Iechyd fel y nodwyd yn
nogfen Cyfrifoldebau Gweinidogol y Llywodraeth. Cytunodd y Gweinidog Cyllid a
Busnes y Llywodraeth i godi'r mater gyda'r Prif Weinidog ac adrodd yn ôl i'r
Pwyllgor. |