Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Dirprwy Lywydd.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Mewn ymateb i ymholiad Elin Jones yn y cyfarfod diwethaf, rhoddodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog Iechyd.

 

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Mae'r Llywodraeth wedi symud y ddwy sesiwn Cwestiynau Llafar y Cynulliad a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer dydd Mercher 15 Hydref i ddydd Mawrth 14 Hydref.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(iv), penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes trwy gyfrwng pleidleisio wedi'i bwysoli. Pleidleisiodd Llafur a Phlaid Cymru o blaid symud busnes 15 Hydref i gyfarfodydd eraill oherwydd y gweithredu diwydiannol disgwyliedig gan staff y Comisiwn a staff Llywodraeth Cymru, tra pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn erbyn symud y busnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:

 

Dydd Mawrth 21 Hydref 2014 - 

 

·         Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud) - eitem wedi'i symud o 15 Hydref.

 

·         Dadl Fer - Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud) - eitem wedi'i symud o 15 Hydref.

 

Dydd Mercher 22 Hydref 2014 -

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) - eitem wedi'i symud o 15 Hydref.

 

Dydd Mercher 5 Tachwedd 2014 - 

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

 

·         Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

·         Dadl Fer - Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes na chafodd unrhyw gynigion eu cyflwyno gan Aelodau unigol ar gyfer dadl ar 15 Hydref. Oherwydd y gweithredu diwydiannol a drefnwyd ar y diwrnod hwnnw, cytunodd y Rheolwyr Busnes na fyddai'r eitem yn cael ei haildrefnu.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid trefnu Dadl Aelod Unigol arall ar gyfer dydd Mercher 3 Rhagfyr 2014, gan gymryd camau i annog Aelodau i gyflwyno cynigion.