Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Dirprwy Lywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mawrth a dydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 19 Tachwedd 2014 - 

 

·         Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015/16 (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl fer - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud)

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Cais am ragor o amser ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal cyfarfodydd ychwanegol ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau busnes neu yn ystod toriad y Nadolig er mwyn caniatáu amser ar gyfer craffu pellach yng Nghyfnod 1.

 

4.2

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cais i ymweld â Dulyn

Cofnodion:

Cytunodd y rheolwyr busnes i gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ymweld â Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Dail yn Nulyn ddydd Mercher 19 Tachwedd a dydd Iau 20 Tachwedd 2014.

 

4.3

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar Gofrestru a Datgan Buddiannau'r Aelodau.

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y cwestiwn a ddylid cytuno mewn egwyddor i argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei gyfarfod ar 11 Tachwedd 2014.

 

Unrhyw Fater Arall

Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Defnyddwyr ddydd Mawrth 21 Hydref. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd gan Bwyllgor y pum wythnos llawn i graffu arno gan fod y darpariaethau wedi'u cyflwyno gan welliant yn Nhŷ'r Arglwyddi. Soniodd y Gweinidog y bydd papur ffurfiol yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf.