Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w
cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Bydd y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a
ganlyn: Dydd
Mercher 26 Tachwedd 2014 - ·
Dadl ar
adroddiad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg,
Peirianneg a Mathemateg (STEM) (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer –
Nick Ramsay (Sir Fynwy) (30 munud) ·
Dadl Fer -
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Defnyddwyr Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Hawliau Defnyddwyr. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm
erbyn dydd Iau 20 Tachwedd 2014, er mwyn gallu trafod y Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 25 Tachwedd 2014. |
|
Pwyllgorau |
|
Cynnig i Sefydlu Pwyllgor Cynulliad |
|
Cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad: Penderfyniadau'r Pwyllgor Busnes Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch cynnig i sefydlu Pwyllgor
Cynulliad i drafod Cael Gwared ar yr Amddiffyniad Cosb Resymol mewn achosion o
Gosbi Plant yn Gorfforol, ynghyd â phapur gan yr Ysgrifenyddiaeth yn nodi
materion cysylltiedig i'r Rheolwyr Busnes eu hystyried. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drafod y cynnig, gan gynnwys yr aelodaeth a materion eraill
sy'n ymwneud â'r Pwyllgor, gyda'u grwpiau ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Busnes
ar 11 Tachwedd 2014. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Cydsyniad o ran Newidiadau i Swyddogaethau'r Cynulliad Cofnodion: Trafododd y
Rheolwyr Busnes bapur ar y cynigion gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â swyddogaethau'r
Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i'r
Ysgrifenyddiaeth lunio cynigion ar gyfer diwygio Rheol Sefydlog 30 ac y
byddai'n dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Unrhyw Fater Arall Nododd y
Rheolwyr Busnes y byddai'r Llywodraeth yn gosod Gorchymyn Adran 109 yr wythnos
hon, cyn dod â phapur ffurfiol gerbron y Pwyllgor yr wythnos nesaf. Dywedodd
Gweinidog Busnes y Llywodraeth wrth y Pwyllgor y byddai'r Llywodraeth yn gosod
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a
Chyflogaeth yr wythnos hon, ac y byddai papur yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod
yr wythnos nesaf. |