Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad llafar am Murco i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ddatblygiadau ers ei datganiad yr wythnos diwethaf.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai cyfnodau pleidleisio dydd Mawrth a dydd Mercher yn cael eu cynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes ar y dyddiau hynny.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Bydd dadl Cyfnod 1 ar Fil Cynhwysiant Addysg Ariannol (Cymru) Bethan Jenkins yn cael ei chynnal ar 26 Tachwedd 2014. Mae'r ddadl Plaid Cymru a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer 26 Tachwedd wedi cael ei symud i'r wythnos ganlynol.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2014

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

 

·          Datganiad gan Kirsty Williams: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) (30 munud)

 

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ddulliau Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi. (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Cymwysterau Cymru

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Cymwysterau (Cymru) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w ystyried yng Nghyfnod 1.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn gohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan yr wythnos nesaf, gan roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

4.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caethwasiaeth Fodern

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Caethwasiaeth Fodern.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 4 Rhagfyr 2014, fel y gellir trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Rhagfyr 2014.

 

4.3

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Pwyllgor Menter a Busnes er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol erbyn 8 Ionawr 2015 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Ionawr 2015.

 

4.4

Gorchymyn Adran 109

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Gorchymyn arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn unol â Rheolau Sefydlog 25.7 hyd 25.11. Os bydd y Gorchymyn arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor yn cael ei gytuno, cyflwynir gwelliant i'r Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) er mwyn iddo gynnwys darpariaeth sy'n diwygio adran 79 yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Gorchymyn arfaethedig at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a'r Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol i'w hystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r ddau Bwyllgor adrodd ar y Gorchymyn arfaethedig erbyn dydd Mercher 3 Rhagfyr fel y gellir trafod y Gorchymyn drafft yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 20 Ionawr 2015.

 

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Llywodraeth sicrhau bod y Gwelliant drafft i Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ar gael cyn gynted ag y bo modd i lywio gwaith craffu y pwyllgor ar y Gorchymyn arfaethedig.

 

Cytunodd Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i drafod cais y Rheolwyr Busnes â’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

4.5

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’w ystyried yng Nghyfnod 1.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn gohirio penderfyniad ar amserlen y Bil tan yr wythnos nesaf, gan roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor.

 

 

4.6

Llythyr oddi wrth Darren Millar AC at y Llywydd: Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Darren Millar AC yn hysbysu'r Llywydd nad oedd ar hyn o bryd mewn sefyllfa i gynnig bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. 

 

Cytunodd y Pwyllgor y bydd yn ystyried amserlen newydd ar gyfer Cyfnod 2 unwaith y cytunir ar yr egwyddorion cyffredinol.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad

5.2

Cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad: Penderfyniadau'r Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Ar gais y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y papurau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth ac Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes ymhellach â Grwpiau Plaid, gan ddychwelyd at y mater yr wythnos nesaf.

 

 

5.3

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar Gofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyfleu barn y Pwyllgor Busnes.

 

5.4

Y Pwyllgor Cyllid: Cais i ymweld â Chaeredin

Cofnodion:

Derbyniodd y Rheolwyr Busnes gais y Pwyllgor Cyllid i ymweld â Senedd yr Alban i gwrdd â'r Pwyllgor Cyllid a Swyddogion y Llywodraeth yng Nghaeredin ddydd Iau 4 Rhagfyr 2014, sy'n golygu y bydd rhaid i Aelodau adael y Cynulliad am 17.00 ar y dydd Mercher.