Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth a dydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014 –

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Troseddu Difrifol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Troseddu Difrifol.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 4 Rhagfyr 2014 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Rhagfyr 2014.

 

4.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol erbyn dydd Iau 8 Ionawr 2015 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Ionawr 2015.

 

4.3

Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Gorchymyn Adran 109

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, gyda gwelliant drafft y Llywodraeth i'r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wedi'i atodi.

 

4.4

Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol: Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU ar gyfer 2014/2015

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y papur sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr holl Filiau, a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines, sef biliau a gyflwynwyd yn Senedd y DU a biliau a gyhoeddwyd ar ffurf drafft, ar gyfer y pedwerydd sesiwn seneddol.

 

4.5

Bil Cymwysterau Cymru

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 11 Tachwedd i gyfeirio'r Bil Addysg Uwch (Cymru) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 13 Mawrth 2015, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 15 Mai 2015.

 

4.6

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 11 Tachwedd i gyfeirio'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 10 Ebrill 2015, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 5 Mehefin 2015.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad i ystyried amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol.

 

Nododd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai'n cyflwyno amserlen tair wythnos newydd o fusnes y llywodraeth i gynnwys cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai angen iddynt ystyried aelodaeth ac amserlen y Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol pe bai'r Pwyllgor yn cael ei sefydlu.

 

5.2

Dyddiadau ar gyfer toriadau'r Cynulliad yn 2015-16

Cofnodion:

Nododd Elin Jones yr hoffai i'r Pwyllgor ystyried cwtogi toriad y Nadolig o bedair wythnos i dair wythnos yn 2015. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o'r farn y dylid parhau gyda'r hen arfer a chael toriad o bedair wythnos o hyd.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiadau toriad y Sulgwyn a thoriad yr haf ar gyfer 2015 a chytunwyd ar doriad hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig ar gyfer 2015/16 (gweler isod).

 

 

 

Dyddiadau

Hanner Tymor y Sulgwyn

(1 wythnos)

 

Dydd Llun 25 Mai 2015 – dydd Sul 31 Mai 2015

Toriad yr Haf

(8 wythnos)

 

Dydd Llun 20 Gorffennaf 2015 – dydd Sul 13 Medi 2015

*Hanner Tymor yr Hydref

(1 wythnos)

 

Dydd Llun 26 Hydref 2015 – dydd Sul 1 Tachwedd 2015

*Toriad y Nadolig

(4 wythnos)

 

Dydd Llun 14 Rhagfyr 2015 - Dydd Sul 10 Ionawr 2016

 

*Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.

 

Unrhyw Fater Arall

Rhoddodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth wybod i'r Pwyllgor Busnes am ddau Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol arall sy'n debygol o gael eu gosod yr wythnos hon, un ar y Bil Dadreoleiddio mewn perthynas â darpariaethau pysgota anarferedig, ac un arall ar y Bil Arloesedd Meddygol.