Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014

 

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

Dydd Mercher 14 Ionawr 2015

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflogau Uwch-reolwyr (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ail-amserlennu’r eitem ganlynol o fusnes:

 

Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 60 munud)

 

3.4

Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl

Cofnodion:

Oherwydd ansawdd uchel y cynigion a gyflwynwyd, dewisodd y Pwyllgor Busnes y pedwar cynnig. Bydd dyddiadau'r cynigion ar gymorth i farw ac awtistiaeth yn y flwyddyn newydd, a bydd y Pwyllgor Busnes yn penderfynu arnynt yn y dyfodol.

 

Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2014

 

NNDM5625

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu y dylid datganoli plismona (heblaw am Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol).

 

 

Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014

 

NNDM5630

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:       

 

a) bod menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Cymru;

 

b) ei bod bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog Cyfartal;

 

c) bod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn y gweithle.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau.

 

 

Dyddiad i'w benderfynu

 

NNDM5636

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Alun Ffred Jones (Arfon)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn cefnogi egwyddorion y Bil Cymorth i Farw.

 

Mae'r Bil Cymorth i Farw ar gael yn:

 

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/assisteddying.html

 

 

Dyddiad i'w benderfynu

 

NNDM5639

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu llwyddiant Cynllun Gweithredu Strategol Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig Llywodraeth Cymru.

 

2. Yn nodi bod mwy i'w wneud i gwrdd ag anghenion plant ac oedolion ag awtistiaeth yng Nghymru.

 

3. Yn credu y byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru.

 

Mae Cynllun Gweithredu Strategol Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig Llywodraeth Cymru ar gael yn:

 

http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/autisticspectrumdisorderplan/?lang=en

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Dadreoleiddio

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Dadreoleiddio.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer craffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol erbyn dydd Iau 8 Ionawr 2015 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Ionawr 2015.