Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014 –

 

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

 

NNDM5636

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Alun Ffred Jones (Arfon)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn cefnogi egwyddorion y Bil Cymorth i Farw.

 

Mae'r Bil Cymorth i Farw ar gael yn:

 

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/assisteddying.html

 

 

Dydd Mercher 21 Ionawr 2015 -

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Dwristiaeth (60 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ail-amserlennu’r eitem ganlynol o fusnes o 10 Rhagfyr 2014 i gyfarfod yn y dyfodol:

 

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

NNDM5630

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:       

 

a) bod menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Cymru;

 

b) ei bod bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog Cyfartal;

 

c) bod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn y gweithle.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau.

 

 

 

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Cytuno ar aelodaeth o Bwyllgor y Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes faterion ynghylch cytuno ar aelodaeth y Pwyllgor Cynulliad i ystyried amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i sefydlu aelodaeth y Pwyllgor. Trwy gyfrwng pleidleisio wedi'i bwysoli, yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(ii), pleidleisiodd Rheolwyr Busnes o blaid aelodaeth yn cynnwys dau Aelod Llafur a chynrychiolydd o bob un o'r pleidiau eraill, ac i'r Pwyllgor gael ei gadeirio gan Aelod Llafur. Pleidleisiodd Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o blaid aelodaeth y pwyllgor, tra pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn erbyn.

 

Fodd bynnag, drwy bleidleisio wedi'i bwysoli, yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(iv), pleidleisiodd Rheolwyr Busnes yn erbyn trefnu dadl ar y cynnig. Pleidleisiodd Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o blaid trefnu dadl ar y cynnig, tra pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn erbyn.

 

5.

Y Cyfarfod Llawn

5.1

Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer toriad y Nadolig. 

 

Unrhyw Fater Arall

Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Busnes, er nad yw ar y Datganiad Busnes eto, y bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu dadl ar y Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015 ar 20 Ionawr 2015.  Gan y bydd y cyfnod sydd ar gael i graffu ar y Rheoliadau yn fyrrach na'r arfer, mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac wedi cael ymateb.  Caiff y ddadl ei hychwanegu at y Datganiad Busnes ar gyfer cyfarfod yr wythnos nesaf, ar ôl i'r Gweinidog rannu'r Rheoliadau drafft gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.