Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar
drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 28 Ionawr 2015 ·
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Llywodraeth Leol (Cymru Cofnodion: Cytunodd
Rheolwyr Busnes o ran egwyddor i gyfeirio’r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) at y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer ystyriaeth yng
Nghyfnod 1. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ohirio penderfyniad ar amserlen y Bil fel y gellir ymgynghori
â’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Cynigion i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Chofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau ac Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Ystyriodd y
Rheolwyr Busnes newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog er mwyn rhoi
argymhellion adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas â Chofrestru
a Datgan Buddiannau Aelodau ac Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar waith.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’u grwpiau ar y cynigion ac i drafod y mater
ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 20 Ionawr 2015. |
|
Unrhyw Fater Arall Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes eu bod yn fodlon â fformat Cwestiynau’r Llefarwyr sydd wedi
bod ar waith ers dechrau tymor yr hydref 2014.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylai’r ddadl nesaf gan Aelod unigol gael ei chynnal ddydd
Mercher 11 Mawrth, 2015. |