Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
Paul Davies. Roedd Andrew RT Davies yn dirprwyo ar ei ran. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd
y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor
am y newidiadau ym Musnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Cynhelir
y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes, ar wahân i
unrhyw bleidlais sy’n angenrheidiol ar y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog.
Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y
Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Gofynnodd Andrew R T Davies i Weinidog Busnes y
Llywodraeth a oedd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd yn bwriadu cyflwyno eitem
yn y Cyfarfod Llawn ar Gynllun Taliad Sylfaenol y llinell Rhostir 400m.
Rhoddodd y Gweinidog wybod i’r Pwyllgor bod y Dirprwy Weinidog wedi cyflwyno
Datganiad Ysgrifenedig ar y mater ar 12 Ionawr 2015 ac y cynhelir ymarfer i
ddatblygu opsiynau newydd mewn cydweithrediad â chyrff sy’n rhanddeiliaid yn y
diwydiant. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn, cyn i Lywodraeth Cymru
ystyried sut i symud ymlaen. Nid oes
unrhyw gynlluniau i drefnu eitem ar hyn yn y Cyfarfod Llawn ar hyn o bryd. Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar
gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a
chytunodd i drefnu’r eitemau canlynol o fusnes: Dydd
Mercher 4 Chwefror 2015 ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth Cofnodion: Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur gan y Llywodraeth
ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol diwygiedig (Memorandwm Rhif
2) mewn perthynas â’r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth. Rhoddodd Gweinidog
Busnes y Llywodraeth wybod i’r Pwyllgor bod y Bil yn dynesu at ddiwedd ei daith
drwy’r Senedd a bod gwaith craffu eisoes wedi’i wneud ar y brif ddarpariaeth
mewn perthynas â thenantiaethau busnesau yn y cartref. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i nodi’r Memorandwm diwygiedig, ac na ddylid ei gyfeirio at bwyllgor yn
y Cynulliad i graffu arno. Nododd y Rheolwyr Busnes bod y Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol mewn perthynas â’r darpariaethau hyn wedi’i drefnu ar gyfer
Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arloesi Meddygol Cofnodion: Bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod papur gan y Llywodraeth
ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm) mewn perthynas â’r
Bil Arloesi Meddygol. Cytunodd y Rholwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm at y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i graffu arno. Roedd y Pwyllgor hwnnw eisoes wedi ymgynghori
ar y darpariaethau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor
gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 29 Ionawr 2015 er mwyn
caniatáu i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mawrth 3 Chwefror 2015. |
|
Unrhyw fater arall Gofynnodd y Gweinidog i’r Rheolwyr Busnes a fyddent yn
fodlon i Gwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Cwnsler Cyffredinol, a drefnwyd ar
gyfer 4 Mawrth, gael eu symud wythnos i 11 Mawrth, oherwydd trefniadau sy’n
gwrthdaro. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i’r cais hwn. Dywedodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth wrth y Rheolwyr
Busnes y gall fod angen i’r Llywodraeth osod Memoranda pan na fydd dim amser neu ychydig iawn o
amser i graffu arnynt yn ystod yr wythnosau nesaf, oherwydd y gwelliannau hwyr
sy’n cael eu gosod o ran Biliau’r DU. Nododd y Gweinidog y bydd yn rhoi cymaint
o wybodaeth i’r Pwyllgor â phosibl. Gofynnodd Elin Jones am y wybodaeth ddiweddaraf am Fil
Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) Darren Millar. Rhoddodd Pennaeth
Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth wybod i’r Pwyllgor fod Darren
Millar yn parhau i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
a Deddfwriaethol. Nid oes unrhyw derfyn amser ffurfiol o dan y Rheolau Sefydlog
ar gyfer dadl Cyfnod 1, ond yn ymarferol, bydd angen gosod cynnig i gytuno ar
egwyddorion cyffredinol y Bil erbyn dechrau hydref 2015 er mwyn i’r Bil gael
digon o amser i gwblhau’r broses ddeddfwriaethol cyn diwedd y pedwerydd Cynulliad. |