Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y caiff y pleidleisiau ar bob eitem o fusnes ac eithrio'r ddadl Cyfnod 3 eu cynnal cyn dechrau trafodion Cyfnod 3 ddydd Mawrth, ac y bydd pob pleidlais yn ymwneud â'r Bil Addysg Uwch (Cymru) yn cael ei chynnal yn ystod trafodion Cyfnod 3.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y trafodion am ddeng munud cyn dechrau ar drafodion Cyfnod 3, a bod cyfnod o 2.5 awr wedi ei ganiatáu ar gyfer yr eitem.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 11 Chwefror 2015

 

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes o ran egwyddor i gyfeirio'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio penderfyniad ar amserlen y Bil tan yr wythnos nesaf fel y gellir ymgynghori â'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

4.2

Y Bil Llywodraeth Leol (Cymru)

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad o ran egwyddor ar 9 Rhagfyr i gyfeirio'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1, a chytunwyd ar 8 Mai 2015 fel terfyn amser i'r Pwyllgor adrodd ar Gyfnod 1, a 3 Gorffennaf 2015 fel y dyddiad ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2 y Pwyllgor.

 

4.3

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) y Bil Troseddau Difrifol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) yn ymwneud â'r Bil Troseddu Difrifol.

 

Rhoddodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth wybod i'r Pwyllgor fod y Bil yn agosáu at ddiwedd ei daith drwy'r Senedd. Oherwydd bod amser yn brin, cytunodd y Rheolwyr Busnes i nodi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, ac na ddylid ei anfon at un o bwyllgorau'r Cynulliad ar gyfer craffu. Bwriedir cynnal dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r darpariaethau yn y cyfarfod llawn ar 28 Ionawr 2015.

 

5.

Y Rheolau Sefydlog

5.1

Cydsyniad o ran Newidiadau i Swyddogaethau'r Cynulliad

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur gan yr Ysgrifenyddiaeth ynghylch newidiadau i'r Rheolau Sefydlog fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sydd yn gofyn am Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer cyflwyno newidiadau i swyddogaethau'r Cynulliad.

 

Nododd y Gweinidog fod gan y Llywodraeth rai pryderon nad oedd yna unrhyw eithriadau i ofyniad i osod datganiad ysgrifenedig gerbron y Cynulliad mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth o fewn un o Filiau'r DU sy'n addasu swyddogaethau'r Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n anfon nodyn i'r Rheolwyr Busnes cyn trafod y mater yn y Pwyllgor unwaith eto.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau ar y cynigion ac i ystyried y mater ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 3 Chwefror 2015.

 

Unrhyw Fater Arall

Cofrestru a Datgan Buddiannau

 

Yn y cyfarfod ar 9 Rhagfyr 2014, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau ar y cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog yn ymwneud â chofrestru a datgan buddiannau Aelodau ac Aelodaeth o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac i ystyried y mater ymhellach yn y cyfarfod heddiw.

 

Mae grwpiau'r pleidiau wedi cael cynnig i gyfarfod â'r Comisiynydd Safonau i geisio cael cyngor ar y newidiadau arfaethedig ac i drafod unrhyw faterion sydd gan Aelodau ynghylch y newidiadau arfaethedig. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod trafodaethau pellach ar yr eitem wedi eu gohirio er mwyn galluogi i'r cyfarfodydd hynny ddigwydd.

 

Gosod Rheoliadau

 

Gofynnodd Elin Jones sut y mae Aelodau'n cael gwybod pan fydd y Llywodraeth yn gosod rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad negyddol. Bydd Siân Wilkins yn ymchwilio i'r mater ac yn ystyried atebion.

 

Y Bil Dadreoleiddio - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

Hysbysodd y Gweinidog Aelodau ei bod yn dal i ddisgwyl gwelliant hwyr yn ymwneud â thai i'r Bil Dadreoleiddio. Yn sgil y gwelliant, bydd angen memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac ni fydd llawer o amser i'r Pwyllgor graffu arno.

 

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

 

Cododd Paul Davies fater yn ymwneud â chyflwyno gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad yn ystod toriad y Nadolig – rhywbeth y mae wedi ysgrifennu at y Llywydd amdano. Dywedodd y Llywydd y bydd yn ymateb i'w lythyr maes o law, ond atgoffodd y Rheolwyr Busnes mai'r Pwyllgor Busnes sy'n cytuno ar y trefniadau cyflwyno yn ystod toriadau.