Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 25 Chwefror 2015 

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio’r penderfyniad ar amserlen y Bil tan yr wythnos nesaf i roi amser i ymgynghori â’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

4.2

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad o ran egwyddor a wnaed ar 20 Ionawr i gyfeirio’r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1, a chytunwyd ar 26 Mehefin 2015 fel y terfyn amser i’r Pwyllgor adrodd ar Gyfnod 1, a  9 Hydref 2015 fel y terfyn amser i gwblhau trafodion Cyfnod 2 y Pwyllgor.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Y Pwyllgor Menter a Busnes: Cais i ymweld â Manceinion

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Menter a Busnes i ymweld ag Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf ddydd Iau 5 Mawrth 2015, sy’n golygu y bydd yn rhaid i Aelodau adael y Cynulliad cyn diwedd y Cyfarfod Llawn ar y dydd Mercher.

 

Unrhyw Fater Arall

Cododd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y mater ynghylch y Pwyllgor yn rhoi sylw i gael gwared â’r amddiffyniad o gosb resymol ar gyfer cosbi plant yn gorfforol. Ar 2 Rhagfyr 2014, pleidleisiodd Rheolwyr Busnes yn erbyn trefnu dadl ar y cynnig i gytuno ar aelodaeth y pwyllgor. Cadarnhaodd Rheolwyr Busnes nad oedd eu safbwynt wedi newid.