Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 4 Mawrth 2015

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
  • Dadl Fer – Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)
  • Dadl Fer - Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud) - dygwyd ymlaen o 11 Mawrth 2015

 

Dydd Mercher 11 Mawrth 2015 -

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru (60 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud) - gohiriwyd ers 4 Mawrth 2015