Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion
i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio
ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid
cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes
ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 4 Mawrth 2015 – ·
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog
30 mewn perthynas â hysbysu Biliau Senedd y DU (5 munud) Dydd Mercher 18 Mawrth 2015 ·
Dadl gan Aelodau Unigol o dan
Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i
Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4): Y Bil Troseddu Difrifol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes
bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(Memorandwm Rhif 4) yn ymwneud â'r Bil Troseddu Difrifol. Rhoddodd Gweinidog Busnes y
Llywodraeth wybod i'r Pwyllgor fod y Bil yn agosáu at ddiwedd ei daith drwy'r
Senedd. Oherwydd bod amser yn brin, cytunodd y Rheolwyr Busnes i nodi'r
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, ac na ddylid ei anfon at un o
bwyllgorau'r Cynulliad ar gyfer gwaith craffu. Gan fod nifer o Gynigion
Cydsyniad Deddfwriaethol diweddar heb gael eu cyfeirio at Bwyllgor, ac o gofio
eu harwyddocâd yn gyfansoddiadol ac o ran polisi, cytunodd y Rheolwyr Busnes y
byddent yn y dyfodol yn ysgrifennu at y pwyllgor perthnasol i'w hysbysu bod
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wedi cael ei osod, ond heb gael ei gyfeirio ar
gyfer gwaith craffu gan bwyllgor. Yn yr achos hwn, bydd y Llywydd yn ysgrifennu
at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ac yn anfon copi at y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Nododd
y Rheolwyr Busnes y bwriedir cynnal dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
mewn perthynas â'r ddarpariaeth hon yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth 2015. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 30: Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU Cofnodion: Trafododd a chymeradwyodd y
Pwyllgor Busnes adroddiad drafft ar ddiwygio Rheol Sefydlog 30 mewn perthynas â
hysbysu ynghylch Biliau Senedd y DU. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i
gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried gan y Cynulliad
ddydd Mercher 4 Mawrth 2013. |
|
Unrhyw Fater Arall Dywedodd
y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Gweinidog Busnes y Llywodraeth wedi
ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ystyried y mater
o amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol. Nododd y Llywydd nad
oedd y Gweinidog yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor Busnes. |