Dewisodd
y Pwyllgor Busnes ddau gynnig ar gyfer y ddadl.
Dydd Mercher 18 Mawrth 2015
NNDM5712
Mick
Antoniw (Pontypridd)
Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Nick
Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn:
1. Cydnabod bod technoleg
ar-lein, ynghyd ag hysbysebu dwys, wedi hybu twf gamblo yng Nghymru ac yn nodi:
a) bod gamblo ar gael i’r
boblogaeth Cymru gyfan bob awr o’r dydd;
b) gall pobl fynd yn gaeth
i gamblo gan greu niwed cymdeithasol a chyfrannu at dlodi, problemau iechyd a
phroblemau cymdeithasol;
c) mae’n hanfodol bod yn
ymwybodol o’r broblem a chynnig cymorth yn gynnar rhag i bobl fynd yn gaeth i
gamblo;
ch) mae’r twf mewn gamblo
ar-lein a pheiriannu betio sy’n cynnig ods sefydlog wedi troi gamblo yn y DU yn
ddiwydiant sy’n werth biliynau;
d) mae’r amgylchedd
rheoleiddio ym maes gamblo’n gymharol lac.
2. Galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) datblygu a gweithredu
strategaeth i fynd i’r afael ag effaith gymdeithasol gamblo a’i effaith ar
iechyd;
b) ymgysylltu â
Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu peiriannau
gamblo; ac
c) ymgysylltu â’r
diwydiant gamblo a’r Ymddiriedolaeth Gamblo Cyfrifol i sicrhau bod cyfran o’r
arian yn cael ei wario yng Nghymru i fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â
gamblo.
Dyddiad i’w drefnu
NNDM5713
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Nodi cyfraniad economaidd y diwydiant dur yng
Nghymru a’r miloedd o swyddi sydd ynghlwm wrtho.
2. Gresynu at y ffaith bod cymaint o ddur yn cael
ei fewnforio ac yn boddi’r farchnad gan greu cystadleuaeth annheg.
3. Galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu’r Siarter
ar gyfer Dur Cynaliadwy Prydain, a fydd yn sicrhau bod yr holl farrau dur
carbon y mae’r Llywodraeth yn eu caffael yn bodloni safon BES 6001 yn ymwneud â
chaffael o ffynonellau cyfrifol.
Mae’r Siarter ar gyfer Dur Cynaliadwy Prydain i’w
gweld yma:
http://www2.eef.org.uk/NR/rdonlyres/04940D4A-E15E-43A5-8C41-51CD7EE4E13F/24323/TheCharterforBritishSustainableSteel1.pdf
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y dylid cynnal dadl Aelod Unigol ar gyfer yr hanner tymor nesaf ddydd Mercher
13 Mai 2015.