Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos hon

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio Dadl Fer Leanne Woods tan 22 Ebrill.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth a dydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf.

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i drefnu’r eitemau busnes canlynol:

Dydd Mercher 29 Ebrill 2015 –

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2 – Cynllunio a gweithredu gweithdrefnau cyllidebol newydd (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu’r ddadl Aelod Unigol ganlynol ar ôl toriad y Pasg a bydd yn cadarnhau’r dyddiad yn ei gyfarfod nesaf:

 

Ar ôl toriad y Pasg –

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

NNDM5715
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Lynne Neagle (Torfaen)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i

a) Annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled Cymru, er mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu digon o amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig;

b) Ymateb i Ymchwil i’r Methiant i Adfer Safloeoedd Glo Brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i’r afael â phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a’r glustogfa 500m; a

c) Cefnogi’r awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd.

4.

Amserlen y Cynulliad

4.1

Dyddiadau Toriadau 2015-16

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes ddyddiadau toriadau dros dro hyd at ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad. O ystyried amseriad y Pasg 2016, a’i agosrwydd at ddiddymiad y Cynulliad, ystyriodd y Pwyllgor amryw o opsiynau mewn perthynas â’r toriad hwnnw.

 

Yn wyneb sicrwydd a roddwyd gan Weinidog Busnes y Llywodraeth ei bod yn ymddangos bod digon amser ar gael ar gyfer rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’u grwpiau ar eu hoff ddewis a dychwelyd at y mater yn eu cyfarfod ar 21 Ebrill 2015.

 

5.

Cyfarfod Llawn

5.1

Trefniadau Cyflwyno ar gyfer Toriad y Pasg

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer cyfnod toriad y Pasg.

Unrhyw Fater Arall

Rhoddodd y Gweinidog y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chyflwyno gwelliannau hwyr cyn diddymiad Senedd bresennol y DU ar 30 Mawrth. Ni ddisgwylir rhagor o welliannau hwyr lle bydd angen Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol. Er bod hyn yn annhebygol, pe bai Llywodraeth y DU yn rhoi hysbysiad am welliant hwyr arall yr wythnos nesaf - a byddai’n ddoeth gwneud y gwelliant hwnnw’n gymwys i Gymru - awgrymodd y Gweinidog na fyddai amser i osod memorandwm a chynnal dadl i gytuno ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.