Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 22 Ebrill 2015 –

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

NNDM5715
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Lynne Neagle (Tor-faen)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i

a) annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled Cymru, er mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu digon o amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig;

b) ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleoedd glo brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; a

c) cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd.

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 29 Ebrill 2015

 

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 6 Mai 2015

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol - Rhaglen ddeddfwriaethol y DU ar gyfer 2014-15.

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur a gyflwynwyd gan y Gweinidog yn amlinellu asesiad terfynol Llywodraeth Cymru o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer pedwaredd sesiwn y Senedd hon.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.