Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes fod dadl fer Leanne Woods, a oedd wedi'i hail-amserlennu o 18 Mawrth, wedi'i thynnu'n ôl.

 

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 29 Ebrill 2015 –

  • Dadl Fer – Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud) – Gohiriwyd i 13 Mai 2015

 

Dydd Mercher 13 Mai 2015 -

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Dadl Fer – Leanne Wood (Canol De Cymru) (30 munud) - Tynnwyd yn ôl

  • Dadl Fer – Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud) – Gohiriwyd o 29 Ebrill 2015

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil yr Amgylchedd (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil yr Amgylchedd (Cymru) at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan gyfarfod yn y dyfodol i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

 

4.2

Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan gyfarfod yn y dyfodol i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

4.3

Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth yn amlinellu ei phrif weithgarwch deddfwriaethol dros y misoedd nesaf.

 

 

5.

Amserlen y Cynulliad

5.1

Dyddiadau ar gyfer toriadau'r Cynulliad 2015-16

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes ddyddiadau toriad hanner tymor yr Hydref a'r Nadolig ar gyfer 2015 a chytunodd ar ddyddiadau toriad dros dro hanner tymor y gwanwyn yn 2016.

 

Ar ôl ystyried amseriad y Pasg yn 2016, a pha mor agos y mae at ddiddymiad y Cynulliad, cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd ar ddyddiadau dros dro ar gyfer toriad y Pasg yn 2016. Adolygir y dyddiadau dros dro hyn ar ddiwedd y flwyddyn cyn cael eu cadarnhau.

 

 

 

Dyddiadau

Hanner Tymor yr Hydref

(1 wythnos)

 

Dydd Llun 26 Hydref 2015 - Dydd Sul 1 Tachwedd 2015

Toriad y Nadolig

(4 wythnos)

 

Dydd Llun 14 Rhagfyr 2015 - Dydd Sul 10 Ionawr 2016

*Hanner Tymor y Gwanwyn

(1 wythnos)

 

Dydd Llun 15 Chwefror 2016 - Dydd Sul 21 Chwefror 2016

*Toriad y Pasg

 

 

Dydd Llun 21 Mawrth 2016 - Dydd Mawrth 5 Ebrill 2016

 

(Bydd y diddymiad yn dechrau ar ddydd Mercher 6 Ebrill 2016)

 

 

*Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.

 

 

6.

Y Rheolau Sefydlog

6.1

Papur i'w nodi - Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Cofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o ran yr adroddiad ar Gofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau, yn cadarnhau bod y diwygiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn gyson gyda bwriadau'r Pwyllgor a'r Comisiynydd Safonau.

 

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn drafftio adroddiad ar y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog ar gyfer cymeradwyaeth gan y Rheolwyr Busnes, a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor maes o law ynghylch amserlen i'r Cynulliad drafod y newidiadau arfaethedig.

 

Unrhyw Fater Arall

Cytunodd y Rheolwyr Busnes gyda chais gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i gyfnewid ei sesiwn holi â'r slot sydd wedi'i neilltuo ar gyfer y Gweinidog Addysg a Sgiliau ym mis Gorffennaf, o 15 Gorffennaf i 8 Gorffennaf 2015.