Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Roedd Richard Ward, Clerc y Pwyllgor Dethol ar
Faterion Cymreig, yn bresennol yn y cyfarfod fel rhan o ymweliad deuddydd â'r
Cynulliad tra bod y Senedd wedi cael ei diddymu. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion
i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y
newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y
dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth a
dydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes
ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 20 Mai 2015 – ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o
gartrefi incwm isel (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Menter a Busnes ar helpu pobl ifanc i gael gwaith (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru
(60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Y Bil Amgylchedd (Cymru) Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu
penderfyniad, mewn egwyddor, ar 29 Ebrill i gyfeirio'r Bil Amgylchedd (Cymru)
i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a
chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1
fyddai 9 Hydref 2015, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor
yng Nghyfnod 2 fyddai 4 Rhagfyr 2015. |