Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mercher.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes na fyddai unrhyw gyfnod pleidleisio.

 

Byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y trafodion am egwyl o ddeng munud cyn dechrau ar drafodion Cyfnod 3.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 3 Mehefin 2015 - 

·         Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ail-amserlennu’r eitem ganlynol o fusnes

 

Dydd Mercher 13 Mai 2015 –

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)- Ni chyflwynwyd unrhyw Gynigion

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 20 Mai 2015 –

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelod Unigol

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gynigion gan Aelodau unigol ar gyfer dadl ar 13 Mai.

 

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes mai digwyddiad unigol yw'r diffyg diddordeb ar yr achlysur hwn, yn enwedig gan y trefnwyd wyth Dadl Aelod Unigol yn ystod y pum mis diwethaf, yn hytrach nag un bob hanner tymor fel fu'r arfer blaenorol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r ddadl nesaf gan Aelod unigol gael ei chynnal ddydd Mercher 8 Gorffennaf 2015.

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 21 Ebrill i gyfeirio Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1, a chytunwyd ar 9 Hydref 2015 fel terfyn amser i'r Pwyllgor adrodd ar Gyfnod 1, a 10 Rhagfyr 2015 fel y dyddiad ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2 y Pwyllgor.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cais i ymweld â Chaeredin

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ymweld â Chaeredin i fynd i gyfarfod o Bwyllgor Archwilio Cyhoeddus Senedd yr Alban ddydd Mawrth 9 Mehefin tan ddydd Mercher 10 Mehefin, 2015.