Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y
Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth
ddydd Mawrth. Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio
cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth
ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y
Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: dydd Mercher
10 Mehefin 2015 - ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) |
|
Unrhyw Fater Arall Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Antoinette Sandbach wedi rhoi
hysbysiad ysgrifenedig o'i hymddiswyddiad fel Aelod Cynulliad yn dilyn ei
hethol yn Aelod Seneddol dros Eddisbury. Cadarnhaodd y Llywydd hefyd fod y Swyddog Canlyniadau ar gyfer rhanbarth
Gogledd Cymru wedi cael gwybod am yr ymddiswyddiad, a'n bod yn parhau i aros am
hysbysiad o'r Aelod newydd ar gyfer y rhanbarth hwnnw. |