Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd. Yn ei habsenoldeb, cadeiriodd y Dirprwy Lywydd y cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Elin Jones ac Aled Roberts. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ran Elin Jones.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Bydd cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu gwneud yn syth ar ôl y Datganiad Busnes.

 

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dyddiad y ddadl eleni ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, a chafodd drafodaeth ynghylch ffurf y ddadl honno.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 24 Mehefin 2015. Cytunwyd hefyd y dylai'r ddadl gael ei chynnal ar yr un ffurf eleni â'r dadleuon a gynhaliwyd yn y ddwy flynedd flaenorol, sef dadl dwy awr yn unig, heb unrhyw ddatganiad.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 24 Mehefin 2015

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
  • Dadl ar Araith y Frenhines (120 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a nodwyd pryderon y Pwyllgor ynghylch amserlen arfaethedig Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Yn ogystal, nododd y Rheolwyr Busnes siom y Pwyllgor am y ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru, wrth reoli ei rhaglen ddeddfwriaethol, wedi rhoi mwy o ystyriaeth i effaith y rhaglen hon ar Bwyllgorau'r Cynulliad.

 

Cytunodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth i adolygu, gyda chyngor gan swyddogion Comisiwn y Cynulliad, goblygiadau ymarferol ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 1 ar y Bil, yn unol â chais y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Y Pwyllgor Menter a Busnes: Cais i ymweld â Brwsel a Lwcsembwrg

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Menter a Busnes i ymweld â'r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel a Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg o ddydd Mercher 24 Mehefin tan ddydd Gwener 26 Mehefin 2015.