Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Gohiriodd y Llywodraeth Dadl Cyfnod 3 ar Fil Cymwysterau Cymru i'r wythnos ganlynol (Dydd Mawrth 16 Mehefin). Cynigiodd y Llywodraeth i gynnal Cyfnod 4 yn syth ar ôl dadl Cyfnod 3. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n penderfynu a ddylai roi ei chaniatâd  i hynny ddigwydd, ar ôl cwblhau Cyfnod 3.

 

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Ddydd Mawrth, ni fydd Cyfnod Pleidleisio. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes, yn sgil gohirio dadl Cyfnod 3 ar Fil Cymwysterau Cymru, fod amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi newid yn sylweddol.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2015

·         Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Cofnodion:

Yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf, nododd y Rheolwyr Busnes bryderon y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag amserlen arfaethedig Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ac ystyriwyd cais i ymestyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 1 am bythefnos. Ar gais y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r penderfyniad am wythnos er mwyn caniatáu cynnal trafodaethau ar y materion ymarferol sy'n ymwneud ag ymestyn terfyn amser.

 

Yn dilyn trafodaethau rhwng swyddogion y Comisiwn a Llywodraeth Cymru, bu Rheolwyr Busnes yn ystyried papur yn amlinellu sut y gellid cyflwyno gwelliannau Cyfnod 2 i'r Bil am ddeuddydd yn ystod toriad y Nadolig, ar 14 a 15 Rhagfyr 2015 petai terfyn amser Cyfnod 1 yn cael ei ymestyn.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y terfyn amser i'r Pwyllgor adrodd ar ei waith craffu yng Nghyfnod 1 am bythefnos ar ôl cynnig cychwynnol y Llywodraeth, o 13 Tachwedd i 27 Tachwedd, a chytunwyd y gellid cyflwyno gwelliannau ar 14 a 15 Rhagfyr 2015.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mai'r terfyn amser ar gyfer cwblhau trafodion Pwyllgor Cyfnod 2 fyddai 5 Chwefror 2016. 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Y Pwyllgor Deisebau: Cais i ymweld â Brwsel

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Deisebau i ymweld â Senedd Ewrop ym Mrwsel ddydd Mawrth 23 Mehefin 2015.

 

Unrhyw Fater Arall

Yn wyneb nifer o gwestiynau llafar yn cael eu tynnu'n ôl yr wythnos flaenorol oherwydd bod Aelodau ar ymweliad Pwyllgor, atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i sicrhau bod Aelodau a fydd yn absennol o'r Cynulliad yn tynnu eu henwau o'r pleidleisiau perthnasol er mwyn osgoi sefyllfa debyg rhag codi eto.