Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â Bil
Cymwysterau Cymru yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3. Cynigiodd y Llywodraeth gynnal Cyfnod 4 Bil Cymwysterau Cymru ar unwaith ar
ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.48. Nododd y Rheolwyr
Busnes fod hwn yn benderfyniad i'r Llywydd ac y byddai'n gwneud penderfyniad ar
ddiwedd trafodion Cyfnod 3. Os bydd y Llywydd yn penderfynu caniatáu cynnig
Cyfnod 4 i basio'r Bil, ar ôl i drafodion Cyfnod 3 gael eu cwblhau'n
llwyddiannus, bydd pleidlais yn cael ei chynnal ar unwaith ar y cynnig Cyfnod 4
gan mai dyna'r eitem olaf o fusnes. Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y
trafodion am ddeng munud cyn dechrau ar drafodion Cyfnod 3. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod
Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. Nododd y Rheolwyr Busnes
nad oedd y Llywodraeth wedi trefnu amser ar gyfer datganiad llafar ar ad-drefnu
llywodraeth leol ar amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf, gan ofyn a allai'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ystyried
blaenoriaethu gwneud datganiad llafar yn ystod yr wythnos ganlynol. Cytunodd y
Gweinidog i ystyried y mater. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Roedd y Rheolwyr Busnes
am gael eu hatgoffa ynghylch y terfyn amser i gyflwyno cynigion ar gyfer y
Ddadl gan Aelodau Unigol, a drefnwyd ar gyfer 8 Gorffennaf. Cafodd y Rheolwyr Busnes wybod y byddai Clerc
y Swyddfa Gyflwyno yn anfon neges e-bost at yr Aelodau i roi manylion am
gyflwyno cynigion, ond yn y cyfamser, byddai'r Clerc yn anfon neges e-bost ar
wahân ar ôl y cyfarfod i gadarnhau'r terfyn amser. Penderfynodd y Pwyllgor
Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 8
Gorffennaf 2015 ·
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol
Comisiwn y Cynulliad (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) |
|
Amserlen y Cynulliad Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar Amserlen y Pwyllgor ar gyfer 2015-16, gan
ddechrau ar 14 Medi 2014 yn ôl trefn wythnos 1. Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes ddyddiadau toriad y gwanwyn yn 2016, ond
cytunwyd y byddai dyddiadau'r Pasg yn 2016 yn parhau'n amodol am y tro ac y
byddent yn cael eu hadolygu tua diwedd y flwyddyn. Nododd y Rheolwyr Busnes y rhestr o Gwestiynau Llafar i'r Prif Weinidog,
Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer 2015-16, a chytunodd ar yr
amserlen ar gyfer Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Byddai Gweinidog Busnes y
Llywodraeth yn rhoi rhestr lawn o'r dyddiadau ar gyfer cwestiynau i Weinidogion
unigol i'r Rheolwyr Busnes. |
|
Deddfwriaeth |
|
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol (Cymru) Cofnodion: Gohiriwyd y drafodaeth ynghylch yr eitem hon tan y cyfarfod yr wythnos
ganlynol, er mwyn aros tan y bydd Llywodraeth Cymru wedi trafod â llefarwyr y
pleidiau. |