Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lara Date (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y
Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio Dadl Fer William Powell tan ddydd
Mawrth 7 Gorffennaf. Nododd y Rheolwyr Busnes bapur ar y trefniadau ar gyfer presenoldeb yr
Ysgrifennydd Gwladol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, fel rhan o'r ddadl ar
raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (Araith y Frenhines). Nododd y Pwyllgor Busnes na fyddai Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r bleidlais ar ddadl
Araith y Frenhines yn cael ei chynnal ar ddiwedd yr eitem ac y byddai'r bleidlais
ar Ddadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd yn cael ei chynnal ar ddiwedd yr
eitem honno. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Oherwydd Gwasanaeth Coffa Srebrenica, sy'n cael ei
gynnal yn y Senedd ar y cyd rhwng y Dirprwy Lywydd a'r Prif Weinidog, cytunodd
y Rheolwyr Busnes i ail-drefnu'r ddadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol
ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad o ddydd Mercher 8
Gorffennaf i ddydd Mercher 15 Gorffennaf. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a
chytunodd i ail-drefnu'r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mawrth 7
Gorffennaf 2015 - ·
Dadl Fer - William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Hofrennydd heddlu
Dyfed-Powys - pam mae'r X99 yn rhoi cymorth hanfodol i ddiogelwch cyhoeddus yng
Nghanolbarth a Gorllewin Cymru (30 munud) -
gohiriwyd o 24 Mehefin Dydd Mercher 8
Gorffennaf 2015 - ·
·
Cytunodd
y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mercher
15 Gorffennaf 2015 -
|
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Casglu a Rheoli
Trethi (Cymru) at y Pwyllgor Cyllid am ystyriaeth Cyfnod 1. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan
cyfarfod yn y dyfodol, i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid. |
|
Unrhyw Fater Arall Yn dilyn y newidiadau i Reol Sefydlog 22, atgoffodd y Llywydd yr Aelodau i
gyflwyno enwebiadau i ethol aelodau wrth gefn ar gyfer pob Aelod o bob
grŵp gwleidyddol ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. |