Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn y busnes a chytunodd i aildrefnu'r  eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2015 –

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

Dydd Mercher 16 Medi 2015 – 

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)

 

3.4

Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor Busnes 2 gynnig ar gyfer dadl.


Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2015

NNDM 5799

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu cyhyd â bod fformiwla Barnett yn parhau y dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig, fel HS2, arwain at gyllid canlyniadol Barnett llawn i Gymru; a

2. Yn credu ymhellach, pan fo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu ar hyn.

Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2015

NNDM 5789

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf arbenigol ar gyfer staff meithrin, fel bod ganddynt y sgiliau a'r hyfforddiant i ymateb yn gyflym ac yn briodol os bydd argyfwng.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth o hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig i staff meithrinfeydd ac asesu opsiynau ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod yr holl staff sy'n gweithio mewn meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol.

 

 

Unrhyw Fater Arall

Cododd Elin Jones y mater ynghylch yr oedi'n ymwneud â chynnig ariannol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) a'i oblygiadau i raglen waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Trafododd y Rheolwyr Busnes sut y byddai'r Cynulliad yn cofio'r bobl a laddwyd ac a anafwyd yn yr ymosodiad terfysgol yn Nhiwnisia.