Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer ddydd Mawrth a dydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes y
byddai’r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad yn cael eu trefnu ar gyfer 23 Medi,
a bob pedair wythnos fusnes ar ôl hynny. Mae hyn er mwyn creu gwell cydbwysedd
o ran busnes o ystyried yr amserlen y flwyddyn nesaf ar gyfer Cwestiynau Llafar
y Cynulliad, drwy gynnal y cyswllt rhwng cwestiynau’r Comisiwn a chwestiynau’r
Cwnsler Cyffredinol. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar
drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 23
Medi 2015 ·
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud) ·
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ystyried Deiseb - Atal Recriwtio
i’r Fyddin mewn Ysgolion (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) |
|
Y Gyllideb |
|
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2016-17 Cofnodion: Ystyriodd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Gweinidog Busnes y Llywodraeth
oedd yn nodi dyddiadau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2016-17.
Fodd bynnag, o ystyried yr ansicrwydd ynghylch amseriad cyhoeddiad Llywodraeth
y DU ar ei Hadolygiad o Wariant, rhoddodd y Gweinidog wybod i’r Rheolwyr Busnes
y byddai’n anodd ar hyn o bryd i gadarnhau amserlen Cyllideb 2015 gyda
sicrwydd. |
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) Cofnodion: Cadarnhaodd y
Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor, ar 23 Mehefin, i gyfeirio’r Bil
Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) i’r Pwyllgor Cyllid ar gyfer ei ystyried yng
Nghyfnod 1, a chytunwyd ar y dyddiad cau ar gyfer adroddiad y Pwyllgor yng
Nghyfnod 1, sef 27 Tachwedd 2015, a’r dyddiad cau ar gyfer cwblhau trafodion y
Pwyllgor yng Nghyfnod 2, sef 5 Chwefror 2016. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Adolygu Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cofnodion: Ystyriodd y Rheolwyr Busnes bapur a oedd yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran y
gwahanol adolygiadau o Reolau Sefydlog y Cynulliad hyd yma. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid gohirio cynnal adolygiad o’r Rheolau
Sefydlog ar Fraint nes bydd y Bil Cymru wedi cwblhau ei daith seneddol. Bu’r Pwyllgor hefyd yn ystyried a oedd unrhyw feysydd eraill o’r Rheolau
Sefydlog yr hoffai eu hadolygu cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad. Dywedodd, yn
ychwanegol at unrhyw faterion a amlygwyd gan adroddiad y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ddeddfu (sydd i gael ei gyhoeddi yn yr
hydref), yr hoffai edrych ar faint a rôl y pwyllgorau. Mae’r Rheolwyr Busnes yn bwriadu trafod y papur gyda’u grwpiau, ac edrych
ar y mater eto yng nghyfarfod cyntaf tymor yr hydref. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf Cofnodion: Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer
toriad yr haf. |
|
Unrhyw Fater Arall Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y byddai’r gloch yn canu am 11.30
fore dydd Mawrth, ar gyfer munud o dawelwch, i nodi deng mlynedd ers y bomio yn
Llundain ar 7/7. |