Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i drefnu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 14 Hydref 2015 –

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru – Tlodi ac Anghydraddoldeb (60 munud)

 

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig  (60 munud)

 

4.

Rheolau Sefydlog

4.1

Maint Pwyllgorau

Cofnodion:

Yn wyneb sylwadau a wnaed gan y Rheolwyr Busnes yn y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2015 ynghylch adolygu rhannau o’r Rheolau Sefydlog cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad, bu Rheolwyr Busnes yn trafod papur a oedd yn nodi’r darpariaethau perthnasol a’r dewisiadau posibl mewn perthynas â maint pwyllgorau. 

 

Gwahoddodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i drafod y papur gyda’u grwpiau a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod ar 20 Hydref 2015. Yn y cyfamser, gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu pwyntiau penodol yn ymwneud â maint pwyllgorau i’r grwpiau plaid eu hystyried.