Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y
cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y
Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio
cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor
Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 4 Tachwedd
2015 – ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) |
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig ar gyfer y ddadl. Dydd Mercher 14 Hydref
2015 NNDM5832 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn ymfalchïo yn y berthynas dda
sydd wedi'i sefydlu yng Nghymru rhwng cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr yn
y sector cyhoeddus a'r sector preifat; a 2. Yn credu: a) bod Bil Undebau Llafur
Llywodraeth y DU yn ymosodiad diangen ar hawliau democrataidd pobl sy'n
gweithio ac y bydd yn tanseilio'r cysylltiadau diwydiannol da ac adeiladol sydd
wedi'u sefydlu yng Nghymru ers 1999; b) bod peryg y bydd y Bil yn mynd yn
groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a chonfensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad
Llafur Rhyngwladol; a c) bod y Bil yn ymyrryd â meysydd y
mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac na ddylid ei gymhwyso i Gymru heb
gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. |
|
Deddfwriaeth |
|
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Menter Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Menter. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 26 Tachwedd 2015 er mwyn i’r Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 1
Rhagfyr 2015. |
|
Amserlen y Gyllideb |
|
Amserlen ar gyfer Cyllideb 2016-17 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn
cadarnhau bod y Pwyllgor yn fodlon â'r amserlen arfaethedig ar gyfer Cyllideb
Ddrafft 2016-17 a'r dyddiad cau arfaethedig o 2 Chwefror 2016 i gyflwyno
adroddiad ar y gyllideb ddrafft hon. Yn y cyfarfod ar 29 Medi 2015, cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyhoeddi'r
amserlen pe byddai'r Pwyllgor Cyllid yn cytuno ar y dyddiad cau i gyflwyno
adroddiad. |
|
Unrhyw Fater Arall Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfod
pwrpasol ychwanegol ddechrau mis Rhagfyr i drafod y dystiolaeth a gasglwyd yn
ystod yr ymgynghoriad ar Adroddiad Etifeddiaeth y pwyllgor. |