Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Dosbarthodd y Gweinidog amserlen dair wythnos ddiwygiedig, gan gynnwys dadl Cyfnod 4 ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) dydd Mawrth 20 Hydref.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 11 Tachwedd 2015

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Menter

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Menter.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Pwyllgor Menter a Busnes er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 26 Tachwedd 2015, er mwyn gallu trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2015.

 

 

5.

Cyfarfod Llawn

5.1

Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Yn y cyfarfod ar 29 Medi gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur ychwanegol gydag opsiynau pellach ar y posibilrwydd o gyflwyno Cwestiynau Amserol yn nhrafodion y Cynulliad.

 

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y papur ac fe'u gwahoddwyd i ymgynghori â'u Grwpiau Plaid ar y gwahanol opsiynau a amlinellir yn Atodiad A y papur a dychwelyd at y mater ar 3 Tachwedd 2015.