Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 11 Tachwedd 2015 -

 

·         Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016/17 (30 munud)

 

Dydd Mercher 18 Tachwedd 2015 -

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

 

4.

Y Rheolau Sefydlog

4.1

Maint Pwyllgorau

Cofnodion:

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes bapur yn nodi'r darpariaethau perthnasol a’r posibiliadau mewn perthynas â maint pwyllgorau. Nododd y Rheolwyr Busnes y byddent yn hoffi ymchwilio ymhellach i'r posibilrwydd o newid y nifer sydd ei angen i ffurfio grŵp a chytunwyd y byddai unrhyw argymhellion a wneir ynghylch mater hwn yn rhan o'i adroddiad etifeddiaeth.

 

 

Unrhyw fater arall

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd o'r protocol ar gyfer grwpio cwestiynau gan annog y Rheolwyr Busnes i sicrhau bod yr Aelodau yn ymwybodol o unrhyw gwestiynau a gaiff eu grwpio.

 

Cadarnhaodd y Llywydd y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i roi gwybod i’r Rheolwyr Busnes pe bai cwestiynau a gafodd eu grwpio yn cael eu dadgrwpio yn ystod y Cyfarfod Llawn.