Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y
wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y
newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor
Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 25 Tachwedd
2015 – ·
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Cydsyniad Deddfwriaethol: Diwygio Lles a Gwaith Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Diwygio Lles a Gwaith. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
i'r Pwyllgor Menter a Busnes er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 10 Rhagfyr 2015 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 12 Ionawr 2016. |
|
Unrhyw Fater Arall Atgoffodd y Dirprwy Lywydd y Rheolwyr Busnes y disgwylir i Aelodau ddangos
cwrteisi i'r rhai sy'n siarad yn y Siambr, ac ni ddylent groesi o flaen Aelodau
sy'n siarad wrth fynd i mewn neu adael y Siambr. |