Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai’r cynnig i atal Rheol Sefydlog 11.16 er mwyn caniatáu i Reoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 gael eu trafod, yn digwydd ar ôl eitem 3 ddydd Mawrth.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y trafodion am egwyl o chwarter awr cyn dechrau ar drafodion Cyfnod 3.

 

Byddai cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn digwydd yn syth ar ôl eitem 2 ddydd Mercher.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Prif Weinidog i symud dadl Plaid Cymru ar Trident, y bydd yn ymateb iddi, i fod cyn dadl y Ceidwadwyr Cymreig.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes dydd Mawrth yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 25 Tachwedd 2015 –

·         Cynnig i ddirymu Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2015 (30 munud)

 

Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015 –

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

3.4

Craffu ar y Bil Cymru Drafft

Cofnodion:

Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod papur yn nodi'r opsiynau posibl ar gyfer craffu ar y Bil Cymru drafft yn y Cyfarfod Llawn yn dilyn cais gan y Rheolwyr Busnes yn y cyfarfod blaenorol.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y mater yng nghyfarfod yr  wythnos nesaf.

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Cofnodion:

Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) at y Pwyllgor Busnes i wneud cais am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) o ddydd Gwener 27 Tachwedd 2015 i 11 Rhagfyr 2015.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater yr wythnos nesaf, yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddydd Iau.

 

5.

Y Rheolau Sefydlog

5.1

Argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ddeddfu yng Nghymru

Cofnodion:

Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod papur yn adolygu’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn yr adroddiad ar ei ymchwiliad i ddeddfu yng Nghymru i'r graddau y maent yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Busnes.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod ddydd Llun 30 Tachwedd 2015.

 

6.

Etifeddiaeth Pwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad

6.1

Papur i'w nodi-adroddiad Fforwm y Cadeiryddion Pwyllgor

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor adroddiad Fforwm y Cadeiryddion Pwyllgor a fydd yn ffurfio rhan o'r drafodaeth ar adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2015.