Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015 -

 

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

Dydd Mercher 13 Ionawr 2016 -

 

·         Bil Cymru drafft (180 munud)

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ail-amserlennu’r eitem ganlynol o fusnes:

 

Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015 –

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)i'w aildrefnu ar gyfer 27 Ionawr 2016

 

3.4

Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor Busnes y ddau gynnig a gyflwynwyd ar gyfer y ddadl.

 

Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2015

 

o   NNDM5881
David Rees (Aberafan)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur i economi Cymru.


2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) barhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r diwydiant dur yn ystod y cyfnod anodd hwn; a


b) chymryd camau brys ar nifer o feysydd, gan gynnwys mynd i'r afael â'r costau ynni uchel a wynebir gan y diwydiannau ynni dwys yng Nghymru, megis y diwydiant dur, er mwyn sicrhau y gallant gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr Ewropeaidd eraill o fewn marchnad fyd-eang.

 

Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015

 

o   NNDM5885

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Eluned Parrott (Canol De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd i addysg a datblygiad ein pobl ifanc, gan ddarparu profiad cyfoethog yn eu rhinwedd eu hunain, ond gan hefyd helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio, gan ysgogi eu dychymyg a'u creadigrwydd, adeiladu hyder, codi dyheadau a rhoi gwell dealltwriaeth o bobl eraill iddynt a gwell empathi ar gyfer pobl eraill;

 

2. Yn nodi â phryder bod cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol dros y degawd diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cerddorol anstatudol;

3. Yn nodi casgliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru fod yr heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru yn cynnwys yr anghyfartalwch yn y ddarpariaeth bresennol a'r anghydraddoldeb o ran cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau; ac

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar addysg gerddorol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau cerddorol, i leihau rhwystrau ariannol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu cynnal er gwaethaf gostyngiadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol ac ysgolion.

 

3.5

Craffu ar Fil Cymru drafft

Cofnodion:

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes bapur yn nodi'r opsiynau posibl ar gyfer craffu ar Fil Cymru drafft yn y Cyfarfod Llawn. Penderfynodd y Rheolwyr Busnes gyflwyno dadl 3 awr yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 13 Ionawr a dychwelyd at y mater eto yr wythnos nesaf i benderfynu ar strwythur y ddadl.

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Undebau Llafur

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Cymru.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 21 Ionawr 2016 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 26 Ionawr 2016.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor Busnes ystyriaeth bellach i'r cais gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymestyn ei derfyn amser adrodd ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) o ddydd Gwener 27 Tachwedd 2015 i 11 Rhagfyr 2015. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddydd Mercher pe bai angen mwy o amser ar y pwyllgor.