Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Byddai'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad am y Metro.

 

Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 20 Ionawr 2016

 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Deddfu yng Nghymru (60 munud)

o   Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (60 munud)

 

3.4

Craffu ar Fil Cymru drafft

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwyr Busnes ystyriaeth i bapur yn nodi dewisiadau posibl ar gyfer craffu ar Fil Cymru drafft yn y Cyfarfod Llawn. Yn eu cyfarfod ar 24 Tachwedd, penderfynodd y Rheolwyr Busnes amserlennu dadl tair awr yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 13 Ionawr, ac ailystyried y mater yr wythnos hon i benderfynu ar strwythur y ddadl.

 

Cytunodd y Pwyllgor y dylid cynnal y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ac, yng ngoleuni'r ffaith bod disgwyl i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyflwyno adroddiad ar ei waith yn craffu ar Fil Cymru drafft ddydd Gwener 4 Rhagfyr, cytunodd y Rheolwyr Busnes i benderfynu ar strwythur y ddadl ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi.

 

4.

Rheolau Sefydlog

4.1

Argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ddeddfu yng Nghymru

Cofnodion:

Ar 17 Tachwedd, ystyriodd y Rheolwyr Busnes bapur i adolygu'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn yr adroddiad ar ei ymchwiliad i ddeddfu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn ymwneud â chylch gorchwyl y Pwyllgor Busnes. Cytunwyd y byddent yn ailystyried y mater yn y cyfarfod heddiw ar ôl ymgynghori â'u grwpiau.

 

Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor i argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gan gynnwys y newidiadau a gynigiwyd i'r Rheolau Sefydlog. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn drafftio ymateb i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac yn drafftio newidiadau i'r Rheolau Sefydlog perthnasol er mwyn i'r Pwyllgor Busnes eu hystyried yn y flwyddyn newydd, pryd y bydd yn penderfynu a ddylid rhoi'r newidiadau arfaethedig gerbron y Cynulliad ai peidio. 

 

5.

Y Cyfarfod Llawn

5.1

Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer toriad y Nadolig. 

 

6.

Y Pwyllgor Busnes

6.1

Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwyr Busnes ystyriaeth i'r dystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor ar ei Adroddiad Etifeddiaeth, a gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth lunio casgliadau ac argymhellion drafft iddo eu hystyried.