Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Byddai Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar drydaneiddio rheilffyrdd.

 

Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 27 Ionawr 2015 -

 

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (15 munud)

 

 

3.4

Craffu ar Fil Cymru drafft

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur a oedd yn nodi cynigion manwl ar gyfer strwythur dadl ynghylch Bil Cymru drafft yn seiliedig ar yr argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Yn eu cyfarfod ar 24 Tachwedd, penderfynodd y Rheolwyr Busnes drefnu dadl a fyddai'n para tair awr yng Nghyfarfod Llawn dydd Mercher 13 Ionawr.  

 

Penderfynodd y Rheolwyr Busnes gyfarfod y tu allan i'r pwyllgor cyn toriad y Nadolig i gytuno ar strwythur cyffredinol y ddadl.

 

4.

Y Rheolau Sefydlog

4.1

Argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ddeddfu yng Nghymru

Cofnodion:

Ar 17 Tachwedd, trafododd y Rheolwyr Busnes bapur i adolygu'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn yr adroddiad ar ei ymchwiliad i ddeddfu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn ymwneud â chylch gorchwyl y Pwyllgor Busnes.  Ar 30 Tachwedd, ar ôl trafod gyda grwpiau'r pleidiau, cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor i argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gan gynnwys y newidiadau a gynigiwyd i'r Rheolau Sefydlog.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i aros i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ddosbarthu nodyn yn amlinellu ei safbwynt ar yr argymhellion cyn ymateb i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y flwyddyn newydd.

 

 

5.

Y Pwyllgor Busnes

5.1

Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Ar ôl i'r Pwyllgor drafod y dystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor ar ei Adroddiad Etifeddiaeth yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf, cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod adroddiad drafft ym mis Ionawr.

 

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Y Pwyllgor Menter a Busnes: Cais i ymweld â Wrecsam

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Menter a Busnes i ymweld â Wrecsam rhwng dydd Mercher 27 Ionawr a dydd Iau 28 Ionawr 2016. 

 

7.

Deddfwriaeth

7.1

Biliau Preifat, Biliau Hybrid a Biliau Cydgrynhoi

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes gynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd ar gyfer Biliau Preifat a Biliau Hybrid gan gytuno i ymgynghori â'u grwpiau ac ailedrych ar y papur yn ystod y cyfarfod ar 19 Ionawr 2016.