Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Byddai Gweinidog yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar Tata Steel. Cafodd y datganiad gan
Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y Cynllun Bathodyn Glas ei
dynnu'n ôl ac yn hytrach byddai'n cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Byddai'r
Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar
drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 10 Chwefror 2016
|
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Deddfwriaeth |
|
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi) Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
mewn perthynas â'r Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi). Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 25 Chwefror 2016 er mwyn i’r Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 1
Mawrth 2016. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Biliau Preifat, Biliau Hybrid a Biliau Cydgrynhoi Cofnodion: Ar 8 Rhagfyr 2015,
trafododd y Pwyllgor bapur yn cynnig gwelliannau drafft i Reol Sefydlog 26A
mewn perthynas â Biliau Preifat, i ehangu ei chwmpas i gynnwys elfennau coll ac
i fod yr un fath â gweithdrefn mewn mannau eraill. Roedd y papur hefyd yn
amlinellu cynigion i gyflwyno gweithdrefn ar gyfer Biliau Hybrid, nad yw yn y
Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd. Ar ôl ymgynghori â
Grwpiau'r Pleidiau, cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i'r newidiadau
arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog. Nododd y Pwyllgor y byddai drafftiau terfynol
y Rheolau Sefydlog newydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Busnes er mwyn
cytuno arnynt ar ôl cytundeb ar unrhyw newidiadau i Reol Sefydlog 26 oedd yn
deillio o argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar
‘Deddfu yng Nghymru’. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes gopi drafft o Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor
Busnes a chytunwyd i roi sylwadau i'r Clerc yn uniongyrchol, yn hytrach na
thrafod yr adroddiad gyda'u grwpiau.
Byddai adroddiad drafft yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor i'w ystyried
mewn cyfarfod yn y dyfodol, a byddai'r adroddiad terfynol yn adlewyrchu unrhyw
gasgliadau y daethpwyd iddynt yn y cyfamser ar ethol cadeiryddion pwyllgorau. |