Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Byddai’r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn
y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr
Busnes y dewisiadau a gyflwynwyd gan Weinidog Busnes y Llywodraeth ar gyfer
trafodion Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a’r effaith ddilynol ar Fusnes
arall y Llywodraeth a amserlennwyd. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cyfarfod Llawn
yn cychwyn am 1pm ar gyfer pythefnos olaf y tymor (8-16 Mawrth) ac y byddai’r
newidiadau’n cael eu hadlewyrchu yn y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ar ôl
hanner tymor. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar
drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i aildrefnu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 2 Mawrth 2016 -
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i
amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mercher 2 Mawrth 2016 -
Dydd Mercher 9 Mawrth 2016 - o
Cynnig i gymeradwyo diwygiadau i God Ymddygiad yr Aelodau (10 munud) o
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) o
Dadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (60 munud) o
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Dyfodol ynni craffach i Gymru (60
munud) |
|
Papur i’w nodi - Cais gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd am ddadl yn y Cyfarfod Llawn. Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd yn gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor -
‘Dyfodol ynni craffach i Gymru’? |
|
Papur i’w nodi: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Adolygiad o Ddeisebau Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn dilyn
cyhoeddi ei adroddiad ar yr adolygiad o drefniadau deisebau cyhoeddus y
Cynulliad a chytunwyd y dylai’r Clerc dynnu sylw ato yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor Busnes. Dywedodd y Llywydd y byddai’n ysgrifennu at Gadeirydd y
Pwyllgor Deisebau gyda’i harsylwadau ei hun. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bill Mewnfudo Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
mewn perthynas â’r Bil Mewnfudo. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y
dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
erbyn dydd Iau 10 Mawrth 2016 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael
ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Mawrth 2016. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (rhif 3): Bil Menter Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch trydydd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â’r Bil Menter. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol i’r Pwyllgor Menter a Busnes er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol erbyn dydd Iau 10 Mawrth 2016 er mwyn i’r
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth
15 Mawrth 2016. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (rhif 4): Bil Menter Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch pedwerydd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â’r Bil Menter. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo
graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno
adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol erbyn dydd Iau 10
Mawrth 2016 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y
Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Mawrth 2016. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Tai a Chynllunio - Cais am estyniad i ystyried Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i gais gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ymestyn y dyddiad
cau ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (rhif 2) ar
y Bil Tai a Chynllunio gan wythnos, o 25
Chwefror i 3 Mawrth. |
|
Papur i’w nodi: Tynnu Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ôl - Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi) Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes
lythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu’n ôl yn
ffurfiol y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Mynediad at
Driniaethau Meddygol (Arloesi) yn dilyn cael gwared ar y cymalau perthnasol yn
y Bil oedd yn ei gwneud yn ofynnol cael y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Adroddiad Etifeddiaeth Diwygiedig y Pwyllgor Busnes Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr
adroddiad etifeddiaeth diwygiedig yn dilyn sylwadau gan y Rheolwyr Busnes yn y
cyfarfod blaenorol a chytunwyd mewn egwyddor ar yr adroddiad diwygiedig ac
eithrio paragraffau 73 a 74. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y newidiadau
i baragraffau 73 a 74 gyda’r Clerc drwy e-bost.
|
|
Pwyllgorau |
|
Gweithdrefnau ar gyfer ethol Cadeiryddion pwyllgorau Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr
Busnes bapur ar newidiadau arfaethedig i weithdrefn y Cynulliad ar gyfer ethol
Cadeiryddion Pwyllgorau. Trwy gyfrwng pleidleisio wedi’i phwysoli, cytunodd
Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru mewn egwyddor
i system newydd o ethol Cadeiryddion Pwyllgorau, tra pleidleisiodd Gweinidog
Busnes y Llywodraeth yn erbyn unrhyw newidiadau. Nid oedd felly mwyafrif o
blaid newid trefn. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â’r broses ddeddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr
Busnes bapur gyda newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 26. Awgrymodd y
Gweinidog y dylid drafftio newidiadau i
rai o’r cynigion yn y papur a nododd nad oedd yn cytuno mewn egwyddor i
gynigion eraill, yn enwedig y rhai ynghylch y Cyfnod Adrodd. Cytunodd y
Gweinidog i anfon nodyn at Reolwyr Busnes yn amlinellu ei newidiadau a
awgrymwyd. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod ar
23 Chwefror. |