Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30. Gofynnwyd y 12 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 4 a 10 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:16 Gofynnwyd yr 13 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4998 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod: a) 40% o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol uwchradd ag oed darllen sydd o leiaf chwe mis yn is na’u hoed cronolegol, yn ôl Adroddiad Blynyddol Estyn 2010/2011; b) perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009 yn is o lawer na gwledydd eraill y DU; c) dirywiad wedi bod yn nifer y disgyblion yng Nghymru sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau Safon Uwch; d) perfformiad mewn arholiadau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru yn waeth nag yn Lloegr; ac e) ar hyn o bryd nad oes dim Prifysgolion o Gymru yn rhestr y Times o’r 200 o'r sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd er bod 27 o Loegr a 5 o’r Alban. 2. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei chyllidebau addysg yn effeithiol i godi safonau yn system addysg Cymru. 3. Yn annog Llywodraeth Cymru i amlinellu sut y caiff gwariant addysg ei fonitro i sicrhau bod adnoddau, pan fo’n bosibl, yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cyflenwi gwasanaethau’n uniongyrchol i ddysgwyr. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail flaenoriaethu gwariant addysg yn effeithiol er mwyn darparu gwelliannau mewn cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru yn y ffordd orau. Gellir gweld Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn drwy fynd i: http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/adroddiad-blynyddol/adroddiadau-blynyddol-2010-2011/ Gellir gweld rhestr y Times o’r 200 o’r sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd drwy fynd i: http://www.timeshighereducation.co.uk/world-university-rankings/2011-2012/top-400.html Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 4. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r grant amddifadedd disgyblion sydd wedi’i anelu at wella cyrhaeddiad addysgol disgyblion difreintiedig. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwario’r grant amddifadedd disgyblion yn cael ei fonitro’n effeithiol er mwyn iddo gyflawni gwelliannau mewn cyrhaeddiad. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau i gynyddu’r grant amddifadedd disgyblion mewn blynyddoedd i ddod i helpu i ddatblygu gwelliannau pellach mewn cyrhaeddiad. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:01 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4998 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod: a) 40% o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol uwchradd ag oed darllen sydd o leiaf chwe mis yn is na’u hoed cronolegol, yn ôl Adroddiad Blynyddol Estyn 2010/2011; b) perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009 yn is o lawer na gwledydd eraill y DU; c) dirywiad wedi bod yn nifer y disgyblion yng Nghymru sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau Safon Uwch; d) perfformiad mewn arholiadau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru yn waeth nag yn Lloegr; ac e) ar hyn o bryd nad oes dim Prifysgolion o Gymru yn rhestr y Times o’r 200 o'r sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd er bod 27 o Loegr a 5 o’r Alban. 2. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei chyllidebau addysg yn effeithiol i godi safonau yn system addysg Cymru. 3. Yn annog Llywodraeth Cymru i amlinellu sut y caiff gwariant addysg ei fonitro i sicrhau bod adnoddau, pan fo’n bosibl, yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cyflenwi gwasanaethau’n uniongyrchol i ddysgwyr. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail flaenoriaethu gwariant addysg yn effeithiol er mwyn darparu gwelliannau mewn cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru yn y ffordd orau. Gellir gweld Adroddiad Blynyddol Estyn 2010/11 drwy fynd i: http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/adroddiad-blynyddol/adroddiadau-blynyddol-2010-2011/ Gellir gweld rhestr y Times o’r 200 o’r sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd drwy fynd i: http://www.timeshighereducation.co.uk/world-university-rankings/2011-2012/top-400.html
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 4. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r grant amddifadedd disgyblion sydd wedi’i anelu at wella cyrhaeddiad addysgol disgyblion difreintiedig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwario’r grant amddifadedd disgyblion yn cael ei fonitro’n effeithiol er mwyn iddo gyflawni gwelliannau mewn cyrhaeddiad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau i gynyddu’r grant amddifadedd disgyblion mewn blynyddoedd i ddod i helpu i ddatblygu gwelliannau pellach mewn cyrhaeddiad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4998 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod: a) 40% o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol uwchradd ag oed darllen sydd o leiaf chwe mis yn is na’u hoed cronolegol, yn ôl Adroddiad Blynyddol Estyn 2010/2011; b) perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009 yn is o lawer na gwledydd eraill y DU; c) dirywiad wedi bod yn nifer y disgyblion yng Nghymru sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau Safon Uwch; d) perfformiad mewn arholiadau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru yn waeth nag yn Lloegr; ac e) ar hyn o bryd nad oes dim Prifysgolion o Gymru yn rhestr y Times o’r 200 o'r sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd er bod 27 o Loegr a 5 o’r Alban. 2. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei chyllidebau addysg yn effeithiol i godi safonau yn system addysg Cymru. 3. Yn annog Llywodraeth Cymru i amlinellu sut y caiff gwariant addysg ei fonitro i sicrhau bod adnoddau, pan fo’n bosibl, yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cyflenwi gwasanaethau’n uniongyrchol i ddysgwyr. 4. Yn croesawu’r grant amddifadedd disgyblion sydd wedi’i anelu at wella cyrhaeddiad addysgol disgyblion difreintiedig. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwario’r grant amddifadedd disgyblion yn cael ei fonitro’n effeithiol er mwyn iddo gyflawni gwelliannau mewn cyrhaeddiad.
Gwrthodwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5000 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi’r cais gan Nominet i Gorfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau a Neilltuir (ICANN) am ddau Barth Lefel Uchaf i Gymru, sef .cymru a .wales 2. Yn credu y bydd presenoldeb o’r fath ar y rhyngrwyd yn helpu i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol ac mewn twf e-fasnach; a 3. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i fabwysiadu’r ddau Barth Lefel Uchaf hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 3, dileu ‘Yn galw ar Gomisiwn' a rhoi yn ei le 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru, ei hasiantaethau a Chomisiwn' Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi ar ddiwedd pwynt 3, ‘ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i annog cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud yr un fath’. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd presenoldeb o’r fath ar y rhyngrwyd yn annog y defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:05. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5000 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi’r cais gan Nominet i Gorfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau a Neilltuir (ICANN) am ddau Barth Lefel Uchaf i Gymru, sef .cymru a .wales 2. Yn credu y bydd presenoldeb o’r fath ar y rhyngrwyd yn helpu i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol ac mewn twf e-fasnach; a 3. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i fabwysiadu’r ddau Barth Lefel Uchaf hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5001 Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd ei Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Canser yn: a) galluogi cynifer o bobl â phosibl i gael triniaeth canser mor agos at eu cartrefi â phosibl; b) darparu ar gyfer cymorth i gleifion canser sy’n ei chael yn anodd teithio i’w canolfan driniaeth; ac c) darparu ar gyfer cyngor ariannol ac ymarferol i ddioddefwyr canser. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt c) ‘gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau lles’ Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu
bod cleifion yng Nghymru bum gwaith yn llai tebygol
na’r rheini yn Lloegr o gael cyffuriau canser mwy newydd. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi
bod 24 o gyffuriau canser
modern sydd ar gael yn rheolaidd nawr i gleifion yn Lloegr
drwy ddefnyddio Cronfa Cyffuriau Canser Llywodraeth y DU ac yn gresynu nad
yw'r rhain ar gael mor
rhwydd i gleifion yng Nghymru. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa a fydd yn ei
gwneud yn haws i gleifion yng Nghymru
gael gafael
ar driniaethau canser modern. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn
2012-13 a oedd yn fwy nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain
beryglu gweithredu’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Canser. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17:01 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5001 Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd ei Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Canser yn: a) galluogi cynifer o bobl â phosibl i gael triniaeth canser mor agos at eu cartrefi â phosibl; b) darparu ar gyfer cymorth i gleifion canser sy’n ei chael yn anodd teithio i’w canolfan driniaeth; ac c) darparu ar gyfer cyngor ariannol ac ymarferol i ddioddefwyr canser.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18:01 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4999 Keith Davies
(Llanelli) Blaenoriaeth i Blismona Trafod dyfodol Plismona
yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18:03 NDM4999 Keith Davies
(Llanelli) Blaenoriaeth i Blismona Trafod dyfodol Plismona yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |