Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Dirprwy Lywydd dros dro Cafodd Rhodri Glyn Thomas ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30. Gofynnwyd cwestiynau 2 – 5 ac 7 – 14. Ni ofynnwyd cwestiwn 1. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.23. Gofynnwyd y cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr
eitem am 14.29. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog eluro ar frys beth yw ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddenu Taflegrau Niwclear Trident i Aberdaugleddau? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau Preifat a Gwelliannau Amrywiol NDM5014 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau
Arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog: Biliau Preifat a Newidiadau Amrywiol’ a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2012; a 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu’r Rheolau Sefydlog, fel
y nodir yn Atodiadau B a D i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfen Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.34. NDM5014 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau Arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog: Biliau Preifat a Newidiadau Amrywiol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2012; a 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiadau B a D i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru NDM5013 Ann Jones
(Dyffryn Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol, Darpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru, a gafodd ei osod yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ebrill 2012. Sylwer: Cafodd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a
Threftadaeth ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2012. Dogfennau Ategol: Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.34. NDM5013 Ann Jones (Dyffryn Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Darpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru, a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ebrill 2012. Sylwer: Cafodd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5015 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer twf economaidd yng Nghymru; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, ASau Cymru a’r Adran Drafnidiaeth i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd cymoedd De Cymru; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu strategaeth integredig i gysylltu De a Gorllewin Cymru i’r brif reilffordd wedi’i thrydaneiddio; ac 4. Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yng Nghymru o dan arweiniad Llafur wedi methu â chysylltu cymunedau ar draws Cymru drwy rwydwaith trafnidiaeth integredig. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn gresynu nad oedd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU
unrhyw gynlluniau i drydaneiddio Rheilffordd y Cymoedd. Gwelliant 2 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: ‘Yn nodi nad yw’r gwariant ar seilwaith rheilffyrdd wedi’i
ddatganoli ac mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, a bod gwariant Network
Rail wedi’i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2006.’ Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddechrau pwynt 2: ‘Yn nodi na wnaeth Llywodraeth Lafur flaenorol y DU
drydaneiddio’r un filltir o Brif Lein Great Western ac’ Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 2, dylid dileu ‘ASau Cymru’ a rhoi ‘ASau’ yn ei
le. Gwelliant 5 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: ‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio datganoli cyllideb
Network Rail a’r holl gyfrifoldebau eraill yn ymwneud â seilwaith rheilffyrdd.’ Gwelliant 6 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod pa mor ymarferol yw cyflwyno
cerdyn Oyster ar gyfer Cymru gyfan, gan weithio gyda chwmnïau trên a chwmnïau
bysiau i sicrhau bod pobl yn gallu teithio o amgylch Cymru yn rhwydd. [os derbynnir
gwelliant 7, bydd gwelliant 8 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 7 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 4, dileu popeth cyn ‘cymunedau’ a rhoi ‘Yn
croesawu’r gwaith sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru’n Un a’r Llywodraeth
Lafur bresennol i gysylltu’ yn ei le Gwelliant 8 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 4, dileu: ‘Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yng
Nghymru o dan arweiniad Llafur’ a rhoi yn ei le: ‘Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yn y DU o dan arweiniad
Llafur a’r Ceidwadwyr’ Gwelliant 9 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gogledd Cymru yn
gallu manteisio ar HS2, ac i sicrhau na fydd unrhyw newidiadau yn cael effaith
anffafriol ar wasanaethau prif lein West Coast i Gaergybi. Gwelliant 10 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi’r ddadl dros ailagor gorsafoedd yn Bow Street ac yng Ngharno. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.25. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5015
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer twf economaidd
yng Nghymru; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gydag awdurdodau lleol, ASau Cymru a’r
Adran Drafnidiaeth i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe
a thrydaneiddio rheilffyrdd
cymoedd De Cymru; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i amlinellu strategaeth integredig i gysylltu De a Gorllewin Cymru i’r brif reilffordd
wedi’i thrydaneiddio; a 4. Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yng Nghymru o dan
arweiniad Llafur wedi methu â chysylltu
cymunedau ar draws Cymru drwy rwydwaith
trafnidiaeth integredig.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn gresynu nad oedd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU unrhyw gynlluniau i drydaneiddio Rheilffordd y Cymoedd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: ‘Yn nodi nad yw’r gwariant ar seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli ac mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, a bod gwariant Network Rail wedi’i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2006.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddechrau pwynt 2: ‘Yn
nodi na wnaeth
Llywodraeth Lafur flaenorol y DU drydaneiddio’r un filltir o Brif Lein y Great Western ac’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4
- Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 2, dylid dileu ‘ASau
Cymru’ a rhoi ‘ASau’ yn ei
le. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: ‘Yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i geisio datganoli cyllideb Network Rail a’r holl gyfrifoldebau
eraill yn ymwneud â seilwaith rheilffyrdd.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod pa mor ymarferol yw cyflwyno cerdyn Oyster ar gyfer Cymru gyfan, gan weithio gyda chwmnïau trên a chwmnïau bysiau i sicrhau bod pobl yn gallu teithio o amgylch Cymru yn rhwydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd
gwelliant 6. Gwelliant 7 - Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Ym mhwynt 4, dileu popeth cyn
‘cymunedau’ a rhoi ‘Yn croesawu’r gwaith
sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth
Cymru’n Un a’r Llywodraeth Lafur bresennol i gysylltu’ yn ei le Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd
gwelliant 7. Gwelliant 8 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 4, dileu: ‘Yn gresynu
bod Llywodraethau olynol yng Nghymru o dan
arweiniad Llafur’ a rhoi yn ei
le: ‘Yn
gresynu bod Llywodraethau olynol yn y DU o dan arweiniad Llafur
a’r Ceidwadwyr’ Gan fod
gwelliant 7 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 8 ei ddad-ddethol. Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu
manteisio ar HS2, ac i sicrhau na fydd
unrhyw newidiadau yn cael effaith
anffafriol ar wasanaethau prif lein West Coast i Gaergybi. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Derbyniwyd
gwelliant 9. Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn cefnogi’r ddadl dros ailagor
gorsafoedd yn Bow Street ac
yng Ngharno. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
Gwrthodwyd
gwelliant 10. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5015
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer twf economaidd
yng Nghymru; 2. Yn nodi nad yw’r gwariant ar seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli ac mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, a bod gwariant Network Rail wedi’i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2006; 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i geisio datganoli cyllideb Network Rail a’r holl gyfrifoldebau eraill yn ymwneud
â seilwaith rheilffyrdd; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod pa mor ymarferol yw cyflwyno cerdyn Oyster ar gyfer Cymru gyfan, gan weithio gyda chwmnïau trên a chwmnïau bysiau i sicrhau bod pobl yn gallu teithio o amgylch Cymru yn rhwydd; 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gydag awdurdodau lleol, ASau a’r Adran
Drafnidiaeth i drydaneiddio
Prif Reilffordd y Great
Western i Abertawe a thrydaneiddio
rheilffyrdd cymoedd De Cymru; 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i amlinellu strategaeth integredig i gysylltu De a Gorllewin Cymru i’r brif reilffordd
wedi’i thrydaneiddio; 7. Yn croesawu’r gwaith sydd wedi’i
wneud gan Lywodraeth Cymru’n Un a’r Llywodraeth Lafur bresennol i gysylltu cymunedau ar draws Cymru drwy rwydwaith trafnidiaeth integredig; ac 8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu
manteisio ar HS2, ac i sicrhau na fydd
unrhyw newidiadau yn cael effaith
anffafriol ar wasanaethau prif lein West Coast i Gaergybi.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5016 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu: a) nad oes lle i fod yn hunanfodlon yng nghyswllt cyflenwi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru; b) mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy fecanwaith ystyrlon ar gyfer monitro ansawdd gofal mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru; c) bod Cymru yn wynebu sialensiau newydd a bod cyd-destun cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn newid yn gyson; d) y dylai pob menyw yng Nghymru, ni waeth ble mae hi'n byw ac ni waeth beth yw ei chefndir cymdeithasol neu ei hethnigrwydd, allu cael gafael ar a derbyn gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel o ansawdd uchel; e) na fu gwelliant sylweddol mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol er 1999; a f) bod yr ystadegau cyfredol ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol a mamolaeth yn annerbyniol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ddarparu arweinyddiaeth strategol a chryf i Fyrddau Iechyd Lleol ledled Cymru i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn gwella; b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau newyddenedigol a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; ac b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau mamolaeth a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwyntiau 1e ac 1f. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: cynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod digon o staff arbenigol ar gael ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ledled y wlad. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a oedd yn fwy nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain beryglu unrhyw ymdrechion i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.28. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5016 Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu: a) nad oes lle i fod
yn hunanfodlon yng nghyswllt cyflenwi
gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru; b) mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy fecanwaith ystyrlon ar gyfer
monitro ansawdd gofal mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru; c) bod Cymru yn wynebu sialensiau newydd a bod cyd-destun cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn newid yn gyson; d) y dylai pob menyw yng
Nghymru, ni waeth ble mae
hi'n byw ac ni waeth beth
yw ei chefndir
cymdeithasol neu ei hethnigrwydd, allu cael gafael
ar a derbyn gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel o ansawdd uchel; e) na fu gwelliant sylweddol
mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol er 1999; a f) bod yr ystadegau cyfredol ar gyfer gwasanaethau
newyddenedigol a mamolaeth yn annerbyniol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ddarparu arweinyddiaeth strategol a chryf i Fyrddau Iechyd Lleol ledled
Cymru i sicrhau bod gwasanaethau
mamolaeth a newyddenedigol yn gwella; b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau newyddenedigol a wneir gan Fyrddau
Iechyd Lleol yn cael ei
gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau nad yw
unrhyw gynigion yn peryglu darparu
gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; ac c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau mamolaeth a wneir gan Fyrddau
Iechyd Lleol yn cael ei
gymeradwyo gan Grŵp
Gweithredu Cymru Gyfan i sicrhau nad yw
unrhyw gynigion yn peryglu darparu
gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1
- Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwyntiau 1e ac 1f. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2
- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: cynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod digon o staff arbenigol ar gael ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ledled y wlad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a
oedd yn fwy
nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain beryglu
unrhyw ymdrechion i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5016 Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu: a) nad oes lle i fod
yn hunanfodlon yng nghyswllt cyflenwi
gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru; b) mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy fecanwaith ystyrlon ar gyfer
monitro ansawdd gofal mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru; c) bod Cymru yn wynebu sialensiau newydd a bod cyd-destun cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn newid yn gyson;
a d) y dylai pob menyw yng
Nghymru, ni waeth ble mae
hi'n byw ac ni waeth beth
yw ei chefndir
cymdeithasol neu ei hethnigrwydd, allu cael gafael
ar a derbyn gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel o ansawdd uchel. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ddarparu arweinyddiaeth strategol a chryf i Fyrddau Iechyd Lleol ledled
Cymru i sicrhau bod gwasanaethau
mamolaeth a newyddenedigol yn gwella; b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau newyddenedigol a wneir gan Fyrddau
Iechyd Lleol yn cael ei
gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau nad yw
unrhyw gynigion yn peryglu darparu
gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau mamolaeth a wneir gan Fyrddau
Iechyd Lleol yn cael ei
gymeradwyo gan Grŵp
Gweithredu Cymru Gyfan i sicrhau nad yw
unrhyw gynigion yn peryglu darparu
gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; a d) cynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod digon o staff arbenigol ar gael ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ledled y wlad.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.22. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5017 Lynne Neagle
(Tor-faen): Effaith diwygio lles ar iechyd meddwl a lles yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.31. NDM5017 Lynne Neagle
(Tor-faen): Effaith diwygio lles ar iechyd meddwl a lles yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |