Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30 Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl.
|
|||||||||||||||||||||||||
(10 muned) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw
gwestiynau Penderfyniad: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5049 William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gresynu nad yw ‘Rhaglen Lywodraethu’ Llywodraeth Cymru yn cyflawni i bobl Cymru. Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy fynd i: http://cymru.gov.uk/docs/strategies/110929fullcy.pdf Gellir gweld Adroddiad Blynyddol – Mai 2012 y Rhaglen Lywodraethu drwy fynd i: http://cymru.gov.uk/docs/strategies/120528fullcy.pdf Cyflwynwyd y
gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1
- Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai un o nodau’r Rhaglen Lywodraethu yw ‘lleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol’, ac yn credu y dylai hyn fod yn flaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:16 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5049 William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gresynu nad yw ‘Rhaglen Lywodraethu’ Llywodraeth Cymru yn cyflawni i bobl Cymru.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai un o nodau’r Rhaglen Lywodraethu yw ‘lleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol’, ac yn credu y dylai hyn fod yn flaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5049 William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gresynu nad yw ‘Rhaglen Lywodraethu’ Llywodraeth Cymru yn cyflawni i bobl Cymru. Yn nodi mai un o nodau’r Rhaglen Lywodraethu yw ‘lleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol’, ac yn credu y dylai hyn fod yn flaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf.
Gwrthodwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5050 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu adroddiad McClelland ‘Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru’; 2. Yn cydnabod gwerth caffael cyhoeddus i economi Cymru; 3. Yn nodi bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith bron dros y flwyddyn ddiwethaf; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol er mwyn rhoi hwb i’r economi: a) gwneud polisi caffael yn fwy agored i gwmnïau yng Nghymru; a b) cynyddu gwariant ar brosiectau seilwaith. Gellir gweld adroddiad McClelland ‘Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru’ drwy fynd i: http://cymru.gov.uk/docs/dpsp/publications/valuewales/120919mcclellandreviewfullfinalcy.pdf Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 4b a rhoi yn ei le: gweithio'n agos â Llywodraeth y DU i fanteisio i’r eithaf ar brosiectau seilwaith, fel trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: gwneud prosesau caffael yn fwy agored i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru drwy ddadfwndelu contractau ar gyfer gwaith y Llywodraeth. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo arferion gorau mewn prosesau caffael. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd diwydiant adeiladu Cymru wrth roi prentisiaethau i bobl ifanc yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:17 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5050 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu adroddiad McClelland ‘Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru’; 2. Yn cydnabod gwerth caffael cyhoeddus i economi Cymru; 3. Yn nodi bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith bron dros y flwyddyn ddiwethaf; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol er mwyn rhoi hwb i’r economi: a) gwneud polisi caffael yn fwy agored i gwmnïau yng Nghymru; a b) cynyddu gwariant ar brosiectau seilwaith.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5048 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rheoleiddiwr cymwysterau ac arholiadau annibynnol i Gymru. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd didueddrwydd gwleidyddol wrth reoleiddio cymwysterau ac arholiadau. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:21 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5048 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rheoleiddiwr cymwysterau ac arholiadau annibynnol i Gymru.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham
(Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd didueddrwydd gwleidyddol wrth reoleiddio cymwysterau ac arholiadau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5048 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rheoleiddiwr cymwysterau ac arholiadau annibynnol i Gymru. Yn nodi pwysigrwydd didueddrwydd gwleidyddol wrth reoleiddio cymwysterau ac arholiadau.
Gwrthodwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17:05 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5051 Rebecca Evans (Canolbarth
a Gorllewin Cymru): Lles anifeiliaid adeg eu lladd Archwilio cyfleoedd i hybu arfer da a safonau uchel o les anifeiliaid adeg eu lladd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17:10 NDM5051 Rebecca Evans (Canolbarth
a Gorllewin Cymru): Lles anifeiliaid adeg eu lladd Archwilio cyfleoedd i hybu arfer da a safonau uchel o les anifeiliaid adeg eu lladd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |