Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 13:30 Gofynnwyd pob un o’r 14 o gwestiynau. Cafodd cwestiynau 2 a 5 eu grwpio.
Cafodd cwestiynau 7 a 10 eu grwpio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 14:14 Gofynnwyd pob un o’r 15 o gwestiynau. Atebwyd
cwestiwn 4 gan y Dirprwy Weinidog Amaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni
Ewropeaidd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Lygredd ym Mornant Porth Tywyn NDM5057 William
Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-03-238: Llygredd ym Mornant Porth Tywyn, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2012. Noder: Gosodwyd ymateb Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar 3 Hydref 2012. Dogfennau
ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:55 NDM5057
William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-03-238: Llygredd ym Mornant Porth Tywyn, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2012. Noder: Gosodwyd ymateb Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar 3 Hydref 2012. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5058
William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r economi, uwchraddio’r seilwaith a chreu swyddi yng Nghymru. 2. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i dyfu economi Cymru. 3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant i bobl Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 1, dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei
le. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn annog Llywodraeth
Cymru i geisio pwerau benthyca gwirioneddol ac i greu cwmni hyd braich,
nad yw’n
talu difidend, i ariannu prosiectau cyfalaf newydd. Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud cynnydd ar Ardaloedd
Menter, diwygio ardrethi busnes, strategaeth weithgynhyrchu a band
eang ar gyfer
busnesau fel mater o frys, er mwyn
helpu i ysgogi’r economi. Gwelliant 5 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Banc Buddsoddi
Gwyrdd, fel ffordd o helpu i ysgogi’r economi. Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn nodi pa mor bwysig i Gymru yw uwchraddio’r seilwaith rheilffyrdd drwy drydaneiddio, yn ogystal â’r manteision yn sgîl hyn i’r economi, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15:32 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5058 William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r economi, uwchraddio’r seilwaith a chreu swyddi yng Nghymru. 2. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i dyfu economi Cymru. 3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant i bobl Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 1, dileu ‘croesawu’r’
a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le.
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i geisio pwerau benthyca gwirioneddol ac i greu cwmni hyd braich, nad yw’n talu difidend, i ariannu prosiectau cyfalaf newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud cynnydd ar Ardaloedd Menter, diwygio ardrethi busnes, strategaeth weithgynhyrchu a band eang ar gyfer busnesau fel mater o frys, er mwyn helpu i ysgogi’r economi. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd, fel ffordd o helpu i ysgogi’r economi. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pa mor bwysig i Gymru yw uwchraddio’r seilwaith rheilffyrdd drwy drydaneiddio, yn ogystal â’r manteision yn sgîl hyn i’r economi, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant
6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5058 William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r economi, uwchraddio’r seilwaith a chreu swyddi yng Nghymru. 2. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant i bobl Cymru. 3. Yn annog Llywodraeth Cymru i geisio pwerau benthyca gwirioneddol ac i greu cwmni hyd braich, nad yw’n talu difidend, i ariannu prosiectau cyfalaf newydd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud cynnydd ar Ardaloedd Menter, diwygio ardrethi busnes, strategaeth weithgynhyrchu a band eang ar gyfer busnesau fel mater o frys, er mwyn helpu i ysgogi’r economi. 5. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd, fel ffordd o helpu i ysgogi’r economi. 6. Yn nodi pa mor bwysig i Gymru yw uwchraddio’r seilwaith rheilffyrdd drwy drydaneiddio, yn ogystal â’r manteision yn sgîl hyn i’r economi, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5059
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar. 2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau; b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; ac c) sicrhau bod model di-elw yn cael ei greu ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Cymru’. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd Gwelliant
2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 3. [Os derbynnir gwelliant 3 bydd gwelliant 4, 5 a 6 yn cael eu
dad-ddethol] Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Dileu 3c) a rhoi yn ei le “archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl” [Os derbynnir gwelliant 4 bydd gwelliant 5 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn is-bwynt 3c), dileu ‘sicrhau bod model di-elw yn cael ei greu’ a rhoi yn ei le ‘archwilio’r posibilrwydd o greu model di-elw’ Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3): Yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu ymroddiad Llywodraeth y DU i Gymru drwy ei hymrwymiad i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y De. Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol. Gwelliant 10 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith. Gwelliant 11 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd HS2 newydd yn hanfodol ar gyfer gwella gwasanaethau i ranbarth Gogledd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i Ogledd Cymru yn cael eu hatgyfnerthu yn y dyfodol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:33 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5059
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar. 2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau; b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; a c) sicrhau bod model di-elw yn cael
ei greu ar
gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Cymru’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd
Gwelliant 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 3. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Dileu 3c) a rhoi yn ei le “archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl” Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol. Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3): Yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu ymroddiad Llywodraeth y DU i Gymru drwy ei hymrwymiad i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y De. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Derbyniwyd gwelliant 9. Gwelliant 10 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
Derbyniwyd gwelliant 10. Gwelliant 11 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd
HS2 newydd yn hanfodol ar gyfer
gwella gwasanaethau i ranbarth gogledd Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i ogledd Cymru yn
cael eu hatgyfnerthu
yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
Derbyniwyd
gwelliant 11. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5059
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar. 2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau; b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; ac c) archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl d) yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6 4. Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith. 7. Yn credu
bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd HS2 newydd yn hanfodol
ar gyfer gwella gwasanaethau i ranbarth gogledd Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i ogledd Cymru yn
cael eu hatgyfnerthu
yn y dyfodol.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17:21. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5056 Mick
Antoniw (Pontypridd) Yr achos dros gadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar amaethyddiaeth yng Nghymru ac yn cyfrannu at dlodi yng nghefn gwlad. Dylem gadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 17:30 NDM5056 Mick
Antoniw (Pontypridd) Yr achos dros gadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar amaethyddiaeth yng Nghymru ac yn cyfrannu at dlodi yng nghefn gwlad. Dylem gadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |