Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynnau 1 i 11. Trosglwyddwyd cwestiwn 12 i’w ateb yn ysgrifenedig. Atebwyd cwestiynau 3 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Gofynnwyd cwestiynnau 2 a 3. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ : Datganiad ar y cyd â Llywodraeth y DU ar ddiwygio'r drefn gyllido Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.24 |
|||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.09 Gofynnwyd y 3 cwestiwn. |
|||||||||
Cynnig Trefniadol Cafwyd cynnig trefniadol gan Lynne Neagle yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio’r ddadl fer. |
||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus NDM5072 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Newidiadau
arfaethedig i Reol Sefydlog 18 mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012; a 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 18, fel y
nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.18 NDM5072 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 18 mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012; a 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau NDM5076 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Linday Whittle (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru). NDM5077 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Lindsay Whittle (Plaid Cymru). NDM5078 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Elin Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru). Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.19 NDM5076 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lindsay Whittle (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru). NDM5077 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Lindsay Whittle (Plaid Cymru). NDM5078 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Elin Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Ardoll Gwm Cnoi (Darren Millar) NDM5046 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.91: Yn cytuno y caiff
Darren Millar gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r
wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog
26.90. Mae’r wybodaeth
cyn y balot ar gael drwy fynd i: http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_013.htm Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.19 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM5046 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn cytuno y caiff Darren Millar gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf’ NDM5073 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Bwerau Benthyg a
Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
3 Gorffennaf 2012. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.06 NDM5073 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Bwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2012. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5074 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi dull Llywodraeth Cymru o reoli adnoddau naturiol yng Nghymru, sef ar lefel yr ecosystem. 2. Yn cydnabod gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i fusnesau ac i gymunedau, yn ogystal â’i fanteision i fioamrywiaeth. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod y dull rheoli ar lefel yr ecosystem yn cael ei ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru; a b) hyrwyddo gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i'r cyhoedd yng Nghymru ac i fusnesau yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Mewnosod ar
ddiwedd pwynt 1: “yn ogystal â gwerth dull rheoli llwyddiannus ar lefel yr
ecosystem i economi Cymru.” Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu fel
pwynt 3b) newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn: hybu'r defnydd o’r dull rheoli ar lefel yr ecosystem ar draws pob lefel o lywodraeth yng Nghymru, yn cynnwys llywodraeth leol, ac ymgysylltu â dinasyddion lleol drwy ddarparu rhagor o wybodaeth am faterion ymarferol y dull rheoli newydd ar lefel yr ecosystem er mwyn gallu defnyddio gwybodaeth leol; Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: datblygu dealltwriaeth gyffredin o’r dull o reoli ar lefel yr
ecosystem gyda rhanddeiliaid,
yn ogystal â darparu rhagor o fanylion ynghylch sut y dylid cyflawni’r
dull gweithredu’n ymarferol
drwy Gorff Adnoddau Naturiol Cymru Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: sicrhau pan fydd y sector preifat yn cyflenwi gwasanaethau ecosystem ei fod yn cael ei dalu’n briodol am y gwaith cyflenwi hwnnw Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.54 Gorhiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5074 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi dull Llywodraeth Cymru o reoli adnoddau naturiol yng Nghymru, sef ar lefel yr ecosystem. 2. Yn cydnabod gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i fusnesau a chymunedau, yn ogystal â’i fanteision i fioamrywiaeth. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod y dull rheoli ar lefel yr ecosystem yn cael ei ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru; a b) hyrwyddo gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i'r cyhoedd ac i fusnesau yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.45 |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5075 Lynne Neagle (Tor-faen): Y Storm Berffaith Asesu effaith gronnol diwygio lles mewn cysylltiad â thai yng Nghymru. Penderfyniad: NDM5075 Lynne Neagle (Tor-faen): Y Storm Berffaith Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio gan gynnig gweithdrefnol yn gynharach yn nhrafodion y dydd. |
|||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |