Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 14.17 Gofynnwyd yr 13 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 9 gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14 NDM5090 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14, fel y’i pennir yn Nhabl 1 “Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2013-14”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2012 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26 (ii). Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.02 NDM5090 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14, fel y’i pennir yn Nhabl 1 “Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2013-14”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2012 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26 (ii). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’ NDM5089 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2012. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2012. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.14 NDM5089 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2012. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2012. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5092 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi swyddogaeth bwysig y stryd fawr yng Nghymru fel canolfan ar gyfer ymgysylltu cymunedol, rhoi hwb i economïau lleol a gwella balchder bro; 2. Yn nodi’r sialensiau sy’n wynebu’r stryd fawr yng Nghymru, gan gynnwys cyfraddau uchel o unedau gwag, y cynnydd mewn siopa ar y rhyngrwyd a datblygu canolfannau manwerthu ar gyrion trefi. 3. Yn nodi’r cynigion a amlinellir yn y papur polisi ‘A Vision for the Welsh High Street’; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r cynigion a amlinellir yn ‘A Vision for the Welsh High Street’ a chyhoeddi ymateb yn rhoi manylion ynghylch sut y bydd yn ymgorffori’r cynigion hyn yn ei hadolygiad adfywio parhaus. Mae linc i ‘A Vision for the Welsh
High Street’ ar gael yma (Saesneg yn
unig): Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy’n dilyn: Yn gresynu nad yw TAN 4: Manwerthu a Chanol Trefi wedi’i ddiweddaru ers datganoli. Gellir gweld TAN 4 drwy fynd i: http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan4/?skip=1&lang=cy [Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 4, a rhoi yn ei le: Yn nodi bod dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’’, yn rhoi pwyslais cryf ar adfywio canol trefi; ac yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio holl opsiynau adfywio canol trefi gyda golwg ar gyhoeddi ei chynigion i gefnogi canol trefi yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw.’ Gallwch weld yr ymgynghoriad drwy fynd i: http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?skip=1&lang=cy Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 4, dileu 'A Vision for the Welsh High Street’ a rhoi yn ei le ‘adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Adfywio canol trefi, dyddiedig Ionawr 2012’ Gellir gweld adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Adfywio canol trefi drwy fynd i: Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ragor o bwerau i gymunedau liniaru effaith canolfannau siopa ar gyrion trefi ar siopau lleol, adfywio canol trefi lleol, a gostwng ardrethi busnes ar gyfer cyfleusterau cymunedol mewn canol trefi er mwyn annog ail-leoli. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen i ledaenu arfer gorau ym maes adfywio canol trefi ledled Cymru. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i gynnig gostyngiadau mewn ardrethi busnes i denantiaid sydd naill ai’n newydd i’r ardal neu sy’n ehangu busnes presennol, ac sy’n cymryd les eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis, fel ffordd o ddenu busnesau newydd a busnesau sy’n ehangu i'r Stryd Fawr yng Nghymru er mwyn annog adfywio. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.50 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5092 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi swyddogaeth bwysig y stryd fawr yng Nghymru fel canolfan ar gyfer ymgysylltu cymunedol, rhoi hwb i economïau lleol a gwella balchder bro; 2. Yn nodi’r sialensiau sy’n wynebu’r stryd fawr yng Nghymru, gan gynnwys cyfraddau uchel o unedau gwag, y cynnydd mewn siopa ar y rhyngrwyd a datblygu canolfannau manwerthu ar gyrion trefi. 3. Yn nodi’r cynigion a amlinellir yn y papur polisi ‘A Vision for the Welsh High Street’; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r cynigion a amlinellir yn ‘A Vision for the Welsh High Street’ a chyhoeddi ymateb yn rhoi manylion ynghylch sut y bydd yn ymgorffori’r cynigion hyn yn ei hadolygiad adfywio parhaus. Mae linc i ‘A Vision for the Welsh
High Street’ ar gael
yma (Saesneg yn unig):
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy’n dilyn: Yn gresynu nad yw TAN 4: Manwerthu a Chanol Trefi wedi’i ddiweddaru ers datganoli. Gellir gweld TAN 4 drwy fynd i: http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan4/?skip=1&lang=cy Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 4, a rhoi yn ei le: Yn nodi bod dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’’, yn rhoi pwyslais cryf ar adfywio canol trefi; ac yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio holl opsiynau adfywio canol trefi gyda golwg ar gyhoeddi ei chynigion i gefnogi canol trefi yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw.’ Gallwch weld yr ymgynghoriad drwy fynd i: http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?skip=1&lang=cy Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gan fod
gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ragor o bwerau i gymunedau liniaru ar effaith canolfannau siopa ar gyrion trefi ar siopau lleol, adfywio canol trefi lleol, a gostwng ardrethi busnes ar gyfer cyfleusterau cymunedol mewn canol trefi er mwyn annog ail-leoli. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen i ledaenu arfer gorau ym maes adfywio canol trefi ledled Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gydag awdurdodau lleol i gynnig gostyngiadau mewn ardrethi busnes
i denantiaid sydd naill ai’n newydd
i’r ardal neu sy’n ehangu
busnes presennol, ac sy’n cymryd les eiddo sydd wedi
bod yn wag am o leiaf 12 mis, fel ffordd
o ddenu busnesau newydd a busnesau sy’n ehangu i'r
Stryd Fawr yng Nghymru er
mwyn annog adfywio. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd
gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5092 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi
swyddogaeth bwysig y stryd fawr yng
Nghymru fel canolfan ar gyfer
ymgysylltu cymunedol, rhoi hwb i economïau
lleol a gwella balchder bro; 2. Yn nodi’r
sialensiau sy’n wynebu’r stryd fawr yng Nghymru,
gan gynnwys cyfraddau uchel o unedau gwag, y cynnydd mewn siopa
ar y rhyngrwyd a datblygu canolfannau manwerthu ar gyrion
trefi. 3. Yn nodi’r
cynigion a amlinellir yn y papur polisi
‘A Vision for the Welsh High Street’; a 4. Yn nodi bod dogfen
ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’’, yn rhoi
pwyslais cryf ar adfywio canol
trefi; ac yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio holl opsiynau adfywio
canol trefi gyda golwg ar
gyhoeddi ei chynigion i gefnogi canol trefi yn
dilyn yr ymgynghoriad hwnnw.’ Gallwch weld yr ymgynghoriad drwy fynd i: http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?skip=1&lang=cy 5. Yn galw am ragor o bwerau i gymunedau liniaru ar effaith canolfannau siopa ar gyrion trefi ar siopau lleol, adfywio canol trefi lleol, a gostwng ardrethi busnes ar gyfer cyfleusterau cymunedol mewn canol trefi er mwyn annog ail-leoli. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen i ledaenu arfer gorau
ym maes
adfywio canol trefi ledled Cymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5091 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd; 2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â rheoleiddio’r farchnad ynni i ddiogelu’r rheini sy’n byw mewn tlodi tanwydd; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd: a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth; b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siŵr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion; Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r Bil Ynni sydd yn yr arfaeth i ddeddfu ar dariffau isel ar gyfer pob cwsmer. Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 3, dileu ‘lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl’ a rhoi yn ei le ‘adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni’ Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu’n arw fod nifer y cartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 28% i 33.5% rhwng 2008 a 2011. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen. Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:52 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5091 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd; 2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â rheoleiddio’r farchnad ynni i ddiogelu’r rheini sy’n byw mewn tlodi tanwydd; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd: a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth; b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siwr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 3, dileu ‘lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl’ a rhoi yn ei le ‘adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu’n arw fod nifer y cartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 28% i 33.5% rhwng 2008 a 2011. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd
gwelliant 6. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd
gwelliant 7. Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd
gwelliant 8. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5091 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd; 2. Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd: a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth; b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siwr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd. 5. Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad. 6. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen. 7. Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.50 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5093 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Bondiau Effaith Gymdeithasol a Phlant sy’n Derbyn Gofal yng Nghymru Archwilio ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau sy’n gallu lleihau nifer y plant a dderbynnir i ofal awdurdodau lleol yng Nghymru. Penderfyniad:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |