Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd yr eitem am 14:20 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr oedi cyn cyflwyno Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, a’r goblygiadau posibl i bobl sy’n derbyn budd-dal y Dreth Gyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd yr eitem am 14:31 Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am golli 580 o swyddi yn Tata Steel yn Ne Cymru. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 3 Dechreuodd yr eitem am 14:36 Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffyrdd sydd wedi’u cau yn ddiweddar oherwydd llifogydd yng Ngogledd Cymru. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 14:51 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyflwyno Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15:01 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter - TYNNWYD YN ÔL |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Prif Weinidog ar Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru - TYNNWYD YN ÔL |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad Blynyddol Datblygu Cynaliadwy NDM5102 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cynnydd a wnaed mewn perthynas â datblygu cynaliadwy yn 2011-12,
fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20
Tachwedd 2012. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn croesawu’r ffaith bod Adroddiad
Blynyddol y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi’i gyhoeddi, ac yn arbennig sylwadau’r
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi
argymhellion y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith, er mwyn sicrhau y
rhoddir digon o sylw i feysydd fel amaethyddiaeth, diogelu'r cyflenwad bwyd a
thwristiaeth yn y dyfodol. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn nodi beirniadaeth y Comisiynydd Dyfodol
Cynaliadwy fod ‘rhai rhannau o’r adroddiad i’w gweld yn hyrwyddo arian a
ddyrennir ac a werir ar gynlluniau yn hytrach na hyrwyddo’r canlyniadau a’r
manteision i gynaliadwyedd sy’n deillio o’r cynlluniau hynny’, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailystyried y modd y mae’n asesu llwyddiant rhaglenni
Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, yn seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach
nag ar fewnbwn. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn credu y bydd Llywodraeth Cymru yn
gwneud mwy o gynnydd at Gymru gynaliadwy os gwnaiff sicrhau bod mwy o’r
canlynol ar gael: a) rhaglenni effeithlonrwydd ynni cartref
fel Arbed; Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i
drydanu, a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar leihau allyriadau CO2
Cymru. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru
wedi gwneud llawer o gynnydd at wella ei Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy yn
2012. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i ddod â chamau
unioni ymlaen ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2012
sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella. Gellir gweld Dangosyddion Datblygu
Cynaliadwy 2012 yn: Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn gresynu bod y prif ddangosydd Gwerth
Ychwanegol Crynswth, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cyfateb i 74% o
gyfartaledd y DU yn 2010, yr isaf o blith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau
Lloegr. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn gresynu na ddefnyddir llawer ar
ddangosyddion economaidd yn yr adroddiad i ystyried llwyddiant polisi Datblygu
Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn nodi pryderon parhaus y Comisiynydd
Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad. Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r
argymhellion a wneir yn yr adroddiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar
waith yn llawn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:21 Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn croesawu’r ffaith bod Adroddiad Blynyddol
y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi’i gyhoeddi, ac yn arbennig sylwadau’r
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi
argymhellion y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith, er mwyn sicrhau y
rhoddir digon o sylw i feysydd fel amaethyddiaeth, diogelu'r cyflenwad bwyd a
thwristiaeth yn y dyfodol. Derbyniwyd
gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn nodi beirniadaeth y Comisiynydd Dyfodol
Cynaliadwy fod ‘rhai rhannau o’r adroddiad i’w gweld yn hyrwyddo arian a
ddyrennir ac a werir ar gynlluniau yn hytrach na hyrwyddo’r canlyniadau a’r
manteision i gynaliadwyedd sy’n deillio o’r cynlluniau hynny’, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailystyried y modd y mae’n asesu llwyddiant rhaglenni
Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, yn seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach
nag ar fewnbwn. Derbyniwyd
gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn credu y bydd Llywodraeth Cymru yn
gwneud mwy o gynnydd at Gymru gynaliadwy os gwnaiff sicrhau bod mwy o’r
canlynol ar gael: a) rhaglenni effeithlonrwydd ynni cartref
fel Arbed; Derbyniwyd
gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i
drydanu, a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar leihau allyriadau CO2
Cymru. Derbyniwyd
gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru
wedi gwneud llawer o gynnydd at wella ei Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy yn
2012. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant
6. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i ddod â chamau
unioni ymlaen ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2012
sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio.
Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn gresynu bod y prif ddangosydd Gwerth
Ychwanegol Crynswth, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cyfateb i 74% o
gyfartaledd y DU yn 2010, yr isaf o blith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau
Lloegr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio.
Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn gresynu na ddefnyddir llawer ar
ddangosyddion economaidd yn yr adroddiad i ystyried llwyddiant polisi Datblygu
Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd gwelliant
9. Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn nodi pryderon parhaus y Comisiynydd
Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
Derbyniwyd gwelliant
10. Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r argymhellion
a wneir yn yr adroddiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith yn llawn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
Derbyniwyd gwelliant
11. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5102 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cynnydd a wnaed mewn perthynas â
datblygu cynaliadwy yn 2011-12, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 20 Tachwedd 2012. Yn credu y bydd Llywodraeth Cymru yn
gwneud mwy o gynnydd at Gymru gynaliadwy os gwnaiff sicrhau bod mwy o’r
canlynol ar gael: a) rhaglenni effeithlonrwydd ynni cartref
fel Arbed; Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydanu,
a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar leihau allyriadau CO2 Cymru. Yn nodi pryderon parhaus y Comisiynydd
Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r
argymhellion a wneir yn yr adroddiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar
waith yn llawn.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheol Sefydlog 12.20(i) ac 11.16 i gynnal trafodaeth ar Gomisiwn Silk NDM5107 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog
33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16
sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol yn darparu’r
amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn
caniatáu i NNDM5108 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 27
Tachwedd 2012. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:02 NDM5107 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau
Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno
o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud
yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad
wythnosol yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes
yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos
ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5108 gael ei ystyried
yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth
27 Tachwedd 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar yr adroddiad gan Gomisiwn Llywodraeth y DU, Comisiwn Silk NDM5108 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: Yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad gan Gomisiwn Llywodraeth
y DU, Comisiwn Silk, y cafwyd
cytundeb unfrydol arno, ac mae’n edrych ymlaen at ei roi ar
waith. Gallwch weld adroddiad y Comisiwn Silk drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:03 NDM5108 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: Yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad gan Gomisiwn Llywodraeth
y DU, Comisiwn Silk, y cafwyd
cytundeb unfrydol arno, ac mae’n edrych ymlaen at ei roi ar
waith. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 16:57 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5083
Nick Ramsay (Mynwy): Asbestos mewn ysgolion: Datgelu’r wybodaeth yn hytrach nag atal hawl rhieni i gael gwybod amdani. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17:01 NDM5083
Nick Ramsay (Mynwy): Asbestos mewn ysgolion: Datgelu’r wybodaeth yn hytrach nag atal hawl rhieni i gael gwybod amdani. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |