Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Trosglwyddwyd y cwestiwn i’w ateb yn
ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6 mewn perthynas â Chadeiryddion Dros Dro yn y Cyfarfod Llawn NDM5104 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau
arfaethedig i Reol Sefydlog 6.23: Cadeiryddion Dros Dro yn y Cyfarfodydd Llawn’
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Tachwedd 2012; a 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 6, fel y
nodir yn Atodiadau B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.29
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 6.23: Cadeiryddion Dros Dro yn y Cyfarfodydd Llawn’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Tachwedd 2012; a 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 6, fel y nodir yn Atodiadau B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Mick Antoniw: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) - GOHIRIWYD |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM5096 Ken Skates (De Clwyd) Eluned Parrott (Canol
De Cymru) David Melding (Canol
De Cymru) Llyr Huws Gruffydd
(Gogledd Cymru) Cefnogwyd gan: Rebecca Evans
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod ac yn gresynu bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dioddef stigma a gwahaniaethu; 2. Yn croesawu Amser i Newid Cymru, sef yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn eu hwynebu; 3. Yn nodi’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Amser i Newid Cymru, a oedd yn dangos bod: a) un ym mhob pedwar yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl fod mewn swydd gyhoeddus; a b) um ym mhob 10 yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael plant; 4. Yn cydnabod bod pobl sydd â materion iechyd meddwl yn chwarae rhan sylweddol mewn cymdeithas, yn gweithio ar draws ystod o sectorau ac yn gwneud cyfraniadau pwysig at yr economi; a 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch Amser i Newid Cymru a dangos ymrwymiad i roi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.29 NDM5096 Ken Skates (De Clwyd) Eluned Parrott (Canol
De Cymru) David Melding (Canol De Cymru) Llyr Huws Gruffydd (Gogledd
Cymru) Cefnogwyd gan: Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod ac yn gresynu bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dioddef stigma a gwahaniaethu; 2. Yn croesawu Amser i Newid Cymru, sef yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn eu hwynebu; 3. Yn nodi’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Amser i Newid Cymru, a oedd yn dangos bod: a) un ym mhob pedwar yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl fod mewn swydd gyhoeddus; a b) um ym mhob 10 yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael plant; 4. Yn cydnabod bod pobl sydd â materion iechyd meddwl yn chwarae rhan sylweddol mewn cymdeithas, yn gweithio ar draws ystod o sectorau ac yn gwneud cyfraniadau pwysig at yr economi; a 5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch Amser i Newid Cymru a dangos ymrwymiad i roi terfyn ar
y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd
meddwl. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5105 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth fethiannau hirdymor Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli grantiau yng Nghymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi datganiadau rheolaidd yn amlinellu’r camau a gymerir i reoli grantiau yn well yng Nghymru; a b) gweithredu mesurau sy’n gwella’r tryloywder sydd ynghlwm wrth wario arian cyhoeddus. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud yn ei hadroddiad ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’ y ‘caiff llawer o gynlluniau grant eu rheoli’n wael, anaml mae gwersi yn cael eu dysgu ac anaml mae cyllidwyr yn llwyddo i ddelio â pherfformiad gwael y derbynwyr grantiau’, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro sut y mae'n mynd i'r afael â hyn. Gellir gweld copi o’r adroddiad ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’ yn: http://www.wao.gov.uk/assets/welshdocuments/Grants_Management_Welsh.pdf Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn credu bod trefniadau rheoli grantiau Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio gormod ar fewnbwn ariannol, ac nad ydynt yn canolbwyntio digon ar ganlyniadau. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.20 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5105 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth fethiannau hirdymor Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli grantiau yng Nghymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi datganiadau rheolaidd yn amlinellu’r camau a gymerir i reoli grantiau yn well yng Nghymru; a b) gweithredu mesurau sy’n gwella’r tryloywder sydd ynghlwm wrth wario arian cyhoeddus.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud yn ei hadroddiad ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’ y ‘caiff llawer o gynlluniau grant eu rheoli’n wael, anaml mae gwersi yn cael eu dysgu ac anaml mae cyllidwyr yn llwyddo i ddelio â pherfformiad gwael y derbynwyr grantiau’, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro sut y mae'n mynd i'r afael â hyn. Gellir gweld copi o’r adroddiad ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’ yn: http://www.wao.gov.uk/assets/welshdocuments/Grants_Management_Welsh.pdf Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn credu bod trefniadau rheoli grantiau Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio gormod ar fewnbwn ariannol, ac nad ydynt yn canolbwyntio digon ar ganlyniadau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5105 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi datganiadau rheolaidd yn amlinellu’r camau a gymerir i reoli grantiau yn well yng Nghymru; a b) gweithredu mesurau sy’n gwella’r tryloywder sydd ynghlwm wrth wario arian cyhoeddus.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5106 William
Graham (Dwyrain De Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod: a) nifer y bobl anabl sy’n defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu eu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn isel o’i chymharu â gwledydd eraill y DU; b) diffyg cefnogaeth a gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr ystod o ddewisiadau sydd ar gael iddynt; ac c) nid oes digon o ddewis o Daliadau Uniongyrchol mewn gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru na rheolaeth drostynt. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) defnyddio'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i adlewyrchu model yr Alban o gymorth hunangyfeiriedig, i sicrhau bod defnyddwyr gofal cymdeithasol yn gallu rheoli eu pecynnau gofal a chymorth drwy daliadau uniongyrchol a chyfrifon a reolir gan drydydd partïon; b) gweithio i sefydlu cofrestr genedlaethol wirfoddol o gynorthwywyr personol i sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth a’r hyfforddiant priodol i’w harfogi â’r sgiliau i ymdrin ag ystod o gyflyrau; ac c) annog cynorthwywyr personol i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth os bydd amgylchiadau’n codi nad oedd modd eu rhagweld. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: ‘Yn cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn briodol ar gyfer pob person anabl.’ Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: ‘Yn cydnabod na fyddai rhagor o ddefnydd o Daliadau Unigol yn digolledu pobl anabl am golli’r lwfans byw i’r anabl.’ Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: ‘cynnal gofal cymdeithasol a gyllidir yn uniongyrchol ochr yn ochr â Thaliadau Uniongyrchol;’ Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 2a dileu ‘i adlewyrchu model yr Alban o gymorth hunangyfeiriedig,’ Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 2b, dileu ‘sefydlu cofrestr genedlaethol wirfoddol o gynorthwywyr personol i sicrhau bod ganddynt’ a rhoi yn ei le ‘sicrhau bod gan gynorthwywyr personol’ Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn addas i bawb, ac i gynnal darpariaeth addas ar gyfer y rheini y bydd angen darparu gofal cymdeithasol ar eu rhan o hyd. Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: ‘sicrhau bod pobl anabl yn cael gwybodaeth a chyngor am eu hawliau, a bod gwasanaethau cynghori'n gymwys i gynorthwyo pobl anabl i lywio eu ffordd drwy system annheg a diffygiol yr asesiadau gallu i weithio.’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.20 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5106 William
Graham (Dwyrain De Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod: a) nifer y bobl anabl sy’n defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu eu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn isel o’i chymharu â gwledydd eraill y DU; b) diffyg cefnogaeth a gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr ystod o ddewisiadau sydd ar gael iddynt; ac c) nid oes digon o ddewis o Daliadau Uniongyrchol mewn gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru na rheolaeth drostynt. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) defnyddio'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i adlewyrchu model yr Alban o gymorth hunangyfeiriedig, i sicrhau bod defnyddwyr gofal cymdeithasol yn gallu rheoli eu pecynnau gofal a chymorth drwy daliadau uniongyrchol a chyfrifon a reolir gan drydydd partïon; b) gweithio i sefydlu cofrestr genedlaethol wirfoddol o gynorthwywyr personol i sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth a’r hyfforddiant priodol i’w harfogi â’r sgiliau i ymdrin ag ystod o gyflyrau; ac c) annog cynorthwywyr personol i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth os bydd amgylchiadau’n codi nad oedd modd eu rhagweld.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: ‘Yn cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn briodol ar gyfer pob person anabl.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: ‘Yn cydnabod na fyddai rhagor o ddefnydd o Daliadau Unigol yn digolledu pobl anabl am golli’r lwfans byw i’r anabl.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: ‘cynnal gofal cymdeithasol a gyllidir yn uniongyrchol ochr yn ochr â Thaliadau Uniongyrchol;’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 2a dileu ‘i adlewyrchu model yr Alban o gymorth hunangyfeiriedig,’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 2b, dileu ‘sefydlu cofrestr genedlaethol wirfoddol o gynorthwywyr personol i sicrhau bod ganddynt’ a rhoi yn ei le ‘sicrhau bod gan gynorthwywyr personol’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn addas i bawb, ac i gynnal darpariaeth addas ar gyfer y rheini y bydd angen darparu gofal cymdeithasol ar eu rhan o hyd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd
gwelliant 6. Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: ‘sicrhau
bod pobl anabl yn cael gwybodaeth
a chyngor am eu hawliau, a bod gwasanaethau cynghori'n gymwys i gynorthwyo pobl anabl i lywio eu
ffordd drwy system annheg a diffygiol yr asesiadau gallu
i weithio.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd
gwelliant 7. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5106 William
Graham (Dwyrain De Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
bod: a) nifer
y bobl anabl sy’n defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu eu gofal
cymdeithasol yng Nghymru yn isel
o’i chymharu â gwledydd eraill y DU; b) diffyg
cefnogaeth a gwybodaeth ar gael ar
hyn o bryd i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr ystod
o ddewisiadau sydd ar gael iddynt;
ac c) nid oes digon o ddewis o Daliadau Uniongyrchol mewn gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru na rheolaeth drostynt. 2. Yn cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn briodol ar gyfer pob person anabl. 3. Yn cydnabod
na fyddai
rhagor o ddefnydd o Daliadau Unigol yn digolledu pobl
anabl am golli’r lwfans byw i’r
anabl. 4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a) cynnal gofal cymdeithasol a gyllidir yn uniongyrchol ochr yn ochr â Thaliadau Uniongyrchol; b) defnyddio'r
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i sicrhau bod defnyddwyr gofal cymdeithasol yn gallu rheoli
eu pecynnau gofal a chymorth drwy daliadau uniongyrchol
a chyfrifon a reolir gan drydydd partïon;
c) gweithio
i sicrhau bod gan gynorthwywyr personol y gefnogaeth a’r hyfforddiant priodol i’w harfogi â’r
sgiliau i ymdrin ag ystod o gyflyrau; d) annog cynorthwywyr personol i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth os bydd amgylchiadau’n codi nad oedd modd eu rhagweld; e) cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn addas i bawb, ac i gynnal darpariaeth addas ar gyfer y rheini y bydd angen darparu gofal cymdeithasol ar eu rhan o hyd; a f) sicrhau
bod pobl anabl yn cael gwybodaeth
a chyngor am eu hawliau, a bod gwasanaethau cynghori'n gymwys i gynorthwyo pobl anabl i lywio eu
ffordd drwy system annheg a diffygiol yr asesiadau gallu
i weithio.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.15 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5103 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): Rail Cymru – Rheilffordd y Bobl i Gymru Yr achos o blaid math newydd o gwmni rheilffordd, y byddai ei brif ymrwymiad i bobl Cymru a’r gororau, nid i grŵp o gyfranddalwyr. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.22 NDM5103 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): Rail Cymru – Rheilffordd y Bobl i Gymru Yr achos o blaid
math newydd o gwmni rheilffordd, y byddai ei brif ymrwymiad
i bobl Cymru a’r gororau, nid i grŵp
o gyfranddalwyr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |