Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 12 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 11 eu grwpio. Ni ofynnwyd cwestiynau 13-15. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Gofynnwyd y 14 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 3 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 15 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5131 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i wladoli Maes Awyr
Caerdydd; a 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddarparu tystiolaeth y bydd prynu Maes
Awyr Caerdydd yn werth am arian ac o fudd i drethdalwyr Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi
nad yw
prynu maes awyr yn flaenoriaeth
fel y nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu
ac yn nodi ymhellach nad yw’n
flaenoriaeth yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol. Gellir gweld
y Rhaglen Lywodraethu drwy ddilyn y linc
a ganlyn: http://wales.gov.uk/about/programmeforgov/?skip=1&lang=cy Gellir gweld
y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/topics/transport/publications/ntp/?skip=1&lang=cy Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfres glir o amcanion
mesuradwy ar gyfer prynu Maes
Awyr Caerdydd a chyflwyno rhaglen ddatblygu gredadwy ar gyfer sicrhau
busnes llwyddiannus yno. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.00 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5131 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i wladoli Maes Awyr
Caerdydd; a 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddarparu tystiolaeth y bydd prynu Maes
Awyr Caerdydd yn werth am arian ac o fudd i drethdalwyr Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi
nad yw
prynu maes awyr yn flaenoriaeth
fel y nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu
ac yn nodi ymhellach nad yw’n
flaenoriaeth yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfres glir o amcanion
mesuradwy ar gyfer prynu Maes
Awyr Caerdydd a chyflwyno rhaglen ddatblygu gredadwy ar gyfer sicrhau
busnes llwyddiannus yno. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gan na dderbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio, a chan na
dderbyniwyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5129 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol: 1.
Yn dathlu bod y Gymraeg yn rhan
annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu
bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi
mewn nifer o ardaloedd nad
ydynt yn rhai traddodiadol; 2.
Yn gresynu’n arw wrth y gostyngiad
yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011; 3.
Yn nodi bod angen gweithredu ar unwaith i wneud
iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl
ddwyieithog; 4.
Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb
S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod
yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer
yr iaith; a 5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r canlynol, er mwyn cefnogi’r
chwe ardal strategol ar gyfer
gweithredu a nodir yn ‘Iaith fyw:
iaith byw’: a)
hybu a chefnogi
mentergarwch gan siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn
yr ardaloedd hynny lle mae’r
iaith yn dal i gael ei siarad
yn eang; b)
buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi cymunedau a diwydiannau creadigol sy’n siarad Cymraeg; c)
rhoi’r safonau
Cymraeg arfaethedig ar sail gyfreithiol; d)
hybu twf
a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan ddechrau gydag
awdurdodau cyhoeddus a gweithio gyda’r sector preifat; e)
sicrhau canlyniadau
gwell ar gyfer addysgu’r Gymraeg fel ail iaith i oedolion ac i blant; f)
cynllunio a hybu’r achos dros
ddatganoli darlledu a datganoli swyddi darlledu yn fewnol; g)
diwygio’r system gynllunio er mwyn
i awdurdodau lleol allu osod cap ar
nifer yr ail gartrefi mewn lleoliadau
penodol; a h)
ymchwilio i sut y gall polisïau caffael gefnogi’r gweithlu a’r gymuned
leol i ddefnyddio’r Gymraeg a hybu defnyddio polisïau o’r fath. Mae
‘Iaith fyw: iaith byw’ ar
gael yn:
http://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/publications/wlstrategy2012/?skip=1&lang=cy Mae
canlyniadau cyfrifiad 2011 ar gael yn: Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol
â hynny: Yn gresynu
nad yw
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Nodyn
Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd er i'r
ymgynghoriad ar y nodyn technegol newydd ddod i ben ym mis Mehefin
2011. Gellir gweld
yr ymgynghoriad ar Nodyn Cyngor
Technegol Drafft 20 yn: http://wales.gov.uk/consultations/planning/tan20consultation/?skip=1&lang=cy Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol
â hynny: Yn llongyfarch
Comisiynydd y Gymraeg ar yr ymgynghoriad
trylwyr a chynhwysfawr a gynhaliodd parthed y safonau Cymraeg arfaethedig ac yn cefnogi'r safonau fel y'u cyhoeddwyd
ganddi ym mis Tachwedd 2012. Gellir gweld
y safonau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn: Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod
pwysigrwydd S4C modern ac effeithlon
ac yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i’r darlledwr ar adeg
pan fo penderfyniadau
gwariant anodd yn gorfod cael
eu gwneud. Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
5 a rhoi yn ei le: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ddangos y camau gweithredu y mae’n eu cymryd
er mwyn cefnogi’r
chwe ardal strategol ar gyfer
gweithredu a nodir yn “Iaith Fyw:
Iaith Byw” ac yn benodol i: (a)
hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg Cymry Cymraeg; (b)
annog twf
y Gymraeg a’r defnydd ohoni yn
y gweithle a hyrwyddo’r defnydd o Nod Siarter Cymraeg i gydnabod gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel; (c)
hyrwyddo manteision
economaidd sgiliau dwyieithog mewn ardaloedd economaidd difreintiedig; (d)
ymchwilio i sut gall polisïau caffael gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg; (e)
ystyried rhinweddau
gosod y safonau Cymraeg arfaethedig, ar ôl eu
cytuno, ar sail statudol; (f)
buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg
yn y diwydiannau creadigol ac mewn bywyd bod dydd mewn cymunedau; (g)
archwilio pam nad oes rhagor
o bobl ifanc yn ystyried eu
bod yn gallu siarad Cymraeg ar ôl degawd
o ddysgu Cymraeg yn orfodol mewn
ysgolion, ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer dysgu
Cymraeg fel ail iaith; (h)
adrodd ar
lefel y pwys a roddir gan bob awdurdod lleol ar dwf a chynaliadwyedd
y defnydd o'r Gymraeg wrth wneud
penderfyniadau cynllunio yn eu hardaloedd; (i)
archwilio pa feysydd o’r diwydiant
darlledu yng Nghymru a allai fod yn atebol
i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU ac yna dadlau’r achos dros rannu cyfrifoldeb [Os
derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliannau 5 a 6 yn cael eu
dad-ddethol] Gwelliant
5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt
5 a rhoi yn ei le: Yn nodi
gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu, ynghyd
â’r chwe maes gweithredu
a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith
Byw, sef: a)
annog a chefnogi'r
defnydd o'r Gymraeg o fewn teuluoedd; b)
cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer
plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth
o werth yr iaith; c)
cryfhau safle’r
Gymraeg o fewn y gymuned; d)
cynyddu cyfleoedd
i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle; e)
gwella gwasanaethau
Cymraeg ar gyfer dinasyddion; ac f)
cryfhau’r seilwaith ar gyfer
yr iaith, gan gynnwys technoleg
ddigidol. [Os
derbynnir gwelliant 4 neu 5, bydd gwelliant
6 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 5 g): ‘a gosod asesiadau
iaith annibynnol ar sail statudol drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.’ Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Weinidogion Cymru i weithredu ar eu haddewid
i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau
Llywodraeth Cymru drwy: (a)
mynnu bod corff annibynnol yn cynnal adolygiad
cyflawn o holl wariant y Llywodraeth ac i asesu’r berthynas rhwng y gwariant hwnnw a’r Gymraeg
- sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant - ac, o hyn ymlaen, cynnal asesiad effaith iaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru bob blwyddyn; (b)
cynnwys lles
y Gymraeg fel rhan o’r diffiniad
statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil Datblygu Cynaliadwy
arfaethedig; ac (c)
sefydlu marchnad
lafur cyfrwng Cymraeg a fydd yn cynnwys monitro’r
angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ledled Cymru a chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys sicrhau
cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.03 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5129
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol: 1. Yn dathlu
bod y Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi
mewn nifer o ardaloedd nad ydynt
yn rhai traddodiadol; 2. Yn gresynu’n
arw wrth y gostyngiad yn nifer
a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011; 3. Yn nodi
bod angen gweithredu ar unwaith i wneud
iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl
ddwyieithog; 4. Yn gresynu
wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb
S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod
yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer
yr iaith; a 5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r canlynol, er mwyn
cefnogi’r chwe ardal strategol ar gyfer gweithredu
a nodir yn ‘Iaith fyw: iaith
byw’: a) hybu a chefnogi mentergarwch gan siaradwyr Cymraeg,
yn enwedig yn yr ardaloedd
hynny lle mae’r iaith yn
dal i gael ei siarad yn eang; b) buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi cymunedau a diwydiannau creadigol sy’n siarad Cymraeg; c) rhoi’r safonau Cymraeg arfaethedig ar sail gyfreithiol; d) hybu twf a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle,
gan ddechrau gydag awdurdodau cyhoeddus a gweithio gyda’r sector preifat; e) sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer addysgu’r
Gymraeg fel ail iaith i oedolion ac i blant; f) cynllunio a hybu’r achos dros
ddatganoli darlledu a datganoli swyddi darlledu yn fewnol; g) diwygio’r system gynllunio er mwyn
i awdurdodau lleol allu osod cap ar
nifer yr ail gartrefi mewn lleoliadau
penodol; a h) ymchwilio i sut y gall polisïau caffael gefnogi’r gweithlu a’r gymuned
leol i ddefnyddio’r Gymraeg a hybu defnyddio polisïau o’r fath.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â
hynny: Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Nodyn
Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd er i'r ymgynghoriad ar y nodyn technegol
newydd ddod i ben ym mis Mehefin 2011. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â
hynny: Yn llongyfarch Comisiynydd y Gymraeg ar yr ymgynghoriad
trylwyr a chynhwysfawr a gynhaliodd parthed y safonau Cymraeg arfaethedig ac yn
cefnogi'r safonau fel y'u cyhoeddwyd ganddi ym mis Tachwedd 2012. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3
- William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei
le: Yn cydnabod pwysigrwydd S4C modern ac effeithlon
ac yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i’r darlledwr ar adeg
pan fo penderfyniadau gwariant anodd yn gorfod cael
eu gwneud. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
5 a rhoi yn ei le: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ddangos y camau gweithredu y mae’n eu cymryd
er mwyn cefnogi’r
chwe ardal strategol ar gyfer
gweithredu a nodir yn “Iaith Fyw:
Iaith Byw” ac yn benodol i: (a)
hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg Cymry Cymraeg; (b)
annog twf y Gymraeg a’r defnydd
ohoni yn y gweithle a hyrwyddo’r defnydd o Nod Siarter Cymraeg i gydnabod gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel; (c)
hyrwyddo manteision economaidd sgiliau dwyieithog mewn ardaloedd economaidd difreintiedig; (d)
ymchwilio i sut gall polisïau caffael gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg; (e)
ystyried rhinweddau gosod y safonau Cymraeg arfaethedig, ar ôl eu
cytuno, ar sail statudol; (f)
buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig
band eang, i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg
yn y diwydiannau creadigol ac mewn bywyd bod dydd mewn cymunedau; (g)
archwilio pam nad oes rhagor o bobl
ifanc yn ystyried eu bod yn gallu siarad
Cymraeg ar ôl degawd o ddysgu
Cymraeg yn orfodol mewn ysgolion,
ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer dysgu Cymraeg
fel ail iaith; (h)
adrodd ar lefel y pwys a roddir gan bob awdurdod lleol ar dwf a chynaliadwyedd
y defnydd o'r Gymraeg wrth wneud
penderfyniadau cynllunio yn eu hardaloedd; (i)
archwilio pa feysydd o’r diwydiant darlledu
yng Nghymru a allai fod yn
atebol i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU ac yna dadlau’r achos
dros rannu cyfrifoldeb Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5
- Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei
le: Yn nodi gweledigaeth
Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu,
ynghyd â’r chwe maes gweithredu
a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith
Byw, sef: a) annog
a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn
teuluoedd; b) cynyddu’r
ddarpariaeth o weithgareddau
Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith; c) cryfhau
safle’r Gymraeg o fewn y gymuned; d) cynyddu
cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle; e) gwella
gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion;
ac f) cryfhau’r
seilwaith ar gyfer yr iaith,
gan gynnwys technoleg ddigidol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Derbyniwyd gwelliant 5, felly cafodd gwelliant 6 ei
ddad-ddethol. Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Weinidogion Cymru i weithredu ar eu haddewid
i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau
Llywodraeth Cymru drwy: (a)
mynnu bod corff annibynnol yn cynnal
adolygiad cyflawn o holl wariant y Llywodraeth ac i asesu’r berthynas rhwng y gwariant hwnnw a’r Gymraeg - sef
mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant - ac, o hyn ymlaen, cynnal
asesiad effaith iaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru bob blwyddyn; (b)
cynnwys lles y Gymraeg fel rhan
o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil Datblygu Cynaliadwy
arfaethedig; ac (c)
sefydlu marchnad lafur cyfrwng Cymraeg
a fydd yn cynnwys monitro’r angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ledled Cymru a chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys sicrhau
cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5129
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol: 1. Yn dathlu
bod y Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi
mewn nifer o ardaloedd nad ydynt
yn rhai traddodiadol; 2. Yn gresynu’n
arw wrth y gostyngiad yn nifer
a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011; 3. Yn nodi
bod angen gweithredu ar unwaith i wneud
iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl
ddwyieithog; 4. Yn gresynu
wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb
S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod
yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer
yr iaith; a 5. Yn
nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu,
ynghyd â’r chwe maes gweithredu
a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith
Byw, sef: a) annog
a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn
teuluoedd; b) cynyddu’r
ddarpariaeth o weithgareddau
Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith; c) cryfhau
safle’r Gymraeg o fewn y gymuned; d) cynyddu
cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle; e) gwella
gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion;
ac f) cryfhau’r
seilwaith ar gyfer yr iaith,
gan gynnwys technoleg ddigidol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5130 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi
trydaneiddio Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd y cynnig: ‘ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyda’r
bwriad o gyflawni hynny.’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.55 NDM5130 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi
trydaneiddio Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.39 Cafodd y cyfarfod ei
ohirio a’i ail-gynnull am 17.41 ar gyfer y Cyfnod
Pleidleisio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5128 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): ‘Sut y mae mynd
â Busnes Cymru yn Rhyngwladol’ Yr angen
am Gyngor Menter i Gymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.47 NDM5128 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): ‘Sut y mae mynd
â Busnes Cymru yn Rhyngwladol’ Yr angen
am Gyngor Menter i Gymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |