Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynnau 1 i 2, 4 i 10 a 12 i 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 3. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.24 Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
Cynnig Trefniadol Cafwyd
cynnig trefniadol gan Aled Roberts ar ran Kirsty Williams yn unol â Rheol
Sefydlog 12.32 i ohirio’r ddadl fer. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Brentisiaethau yng Nghymru NDM5142 Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr ymchwiliad
i Brentisiaethau yng Nghymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2012. Er gwybodaeth:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Ionawr 2013. Dogfennau
ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.30 NDM5142 Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr ymchwiliad
i Brentisiaethau yng Nghymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2012. Er gwybodaeth:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Ionawr 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5144 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn mynegi pryder dwys ynghylch
effaith negyddol bosibl y cynigion i ad-drefnu GIG Cymru ar gleifion. 2.
Yn nodi pryderon
eang ynghylch y ffordd anghyson y mae byrddau
iechyd lleol yn cynnwys y cyhoedd
yn y broses o newid y GIG. 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i egluro’i
harweiniad ar gynnwys y cyhoedd yn y broses o newid gwasanaethau’r GIG i sicrhau na ellir
anwybyddu barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau
ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu ateb unrhyw
alw ychwanegol a allai godi
yn sgîl ad-drefnu GIG Cymru cyn y caiff unrhyw newidiadau
eu gwneud. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.31 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5144 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn mynegi pryder dwys ynghylch
effaith negyddol bosibl y cynigion i ad-drefnu GIG Cymru ar gleifion. 2.
Yn nodi pryderon
eang ynghylch y ffordd anghyson y mae byrddau
iechyd lleol yn cynnwys y cyhoedd
yn y broses o newid y GIG. 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i egluro’i harweiniad ar gynnwys y cyhoedd
yn y broses o newid gwasanaethau’r GIG i sicrhau na ellir
anwybyddu barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau
ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu ateb
unrhyw alw ychwanegol a allai
godi yn sgîl
ad-drefnu GIG Cymru cyn y caiff unrhyw
newidiadau eu gwneud. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5144 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn mynegi pryder dwys ynghylch
effaith negyddol bosibl y cynigion i ad-drefnu GIG Cymru ar gleifion. 2.
Yn nodi pryderon
eang ynghylch y ffordd anghyson y mae byrddau
iechyd lleol yn cynnwys y cyhoedd
o ran newid y GIG. 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i egluro’i harweiniad ar gynnwys y cyhoedd
yn y newidiadau i wasanaethau’r GIG i sicrhau na ellir
anwybyddu barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau
ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG. 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu
ateb unrhyw alw ychwanegol a
allai godi yn sgîl ad-drefnu
GIG Cymru cyn y caiff unrhyw newidiadau
eu gwneud.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5146 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad
enfawr y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i economi a diwylliant Cymru. 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau llwyddiant parhaus y sectorau hyn drwy: a)
adolygu gweithrediad
adroddiad Hargreaves, 'Calon
Cymru Ddigidol’, i sicrhau
bod ei pholisïau’n berthnasol a chyfoes, yn benodol o ran datblygu system breindaliadau hawliau perfformio i Gymru; a b)
sicrhau bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn adolygu ei
strategaeth ar ffurfiau celf yn
ystod 2013 ac yn rhoi sylw llawn
i’r angen i gynyddu cyfranogaeth yn y celfyddydau, annog pobl ifanc
i ymgysylltu â chreadigrwydd,
hyrwyddo rhagoriaeth artistig yn y Gymraeg
a’r Saesneg a gosod Cymru ar lwyfan y byd. Gellir dod o hyd i adroddiad Hargreaves ‘Calon Cymru
Ddigidol’ drwy fynd i: Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn edrych
ymlaen at weld adroddiad yr ymchwiliad gan
Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Gyfranogiad yn y Celfyddydau yng Nghymru yn cael
ei gyhoeddi. Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y cynnydd a wnaed yng nghyswllt
argymhellion 4, 12, 19, 22 a 23 ymchwiliad
Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’r Rhagolygon ar gyfer Dyfodol
y Cyfryngau yng Nghymru. Gellir gweld
adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen drwy ddilyn y linc
a ganlyn: Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i wella argaeledd seilwaith digidol sy’n gallu cefnogi’r
celfyddydau a diwydiannau creadigol drwy gynyddu’r mynediad at fand eang cyflym
a gwella mynediad at sianeli Cymreig drwy deledu digidol. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu
y bydd mwy o gyfranogiad yn y celfyddydau yn creu sylfaen gynaliadwy
ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yn y dyfodol ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu
cynllun gweithredu ar gyfer cyfranogi
sy’n cynnwys llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth
Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.32 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5146 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad
enfawr y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i economi a diwylliant Cymru. 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau llwyddiant parhaus y sectorau hyn drwy: a)
adolygu gweithrediad
adroddiad Hargreaves, ‘Calon
Cymru Ddigidol’, i sicrhau bod ei pholisïau’n berthnasol a chyfoes, yn benodol
o ran datblygu system breindaliadau
hawliau perfformio i Gymru; a b)
sicrhau bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn adolygu
ei strategaeth ar ffurfiau celf
yn ystod 2013 ac yn rhoi sylw
llawn i’r angen i gynyddu cyfranogaeth yn y celfyddydau, annog pobl ifanc i ymgysylltu
â chreadigrwydd, hyrwyddo rhagoriaeth artistig yn Gymraeg a’r
Saesneg a gosod Cymru ar lwyfan
y byd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.24 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5145 Kirsty Williams (Brycheiniog a
Sir Faesyfed): Arbennig, Unigryw
ac mewn Argyfwng Y
bygythiadau i ddiwydiant
Cig Oen Cymru a’r angen i weithredu. Penderfyniad: NDM5145 Kirsty Williams
(Brycheiniog a Sir Faesyfed): Arbennig, Unigryw
ac mewn Argyfwng Y
bygythiadau i ddiwydiant
Cig Oen Cymru a’r angen i weithredu. Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio yn gynharach yn nhrafodion y dydd. |
|||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |