Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd bod Cydsyniad Brenhinol wedi cael ei roi
ar 4 Mawrth i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ardrethi Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.30 |
|||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ymgysylltu a Datblygiad Ieuenctid - Gohiriwyd tan 23 Ebrill |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2012-13 NDM5162 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30,
yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth,
5 Chwefror 2013. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth
ganlynol: I) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran
125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; II) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar
gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â
hi; III) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer
cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn
y cynnig; IV) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i
Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu
talu o’r Gronfa yn y cynnig; a V) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran
125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol
Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r
Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn
a'r rhai blaenorol. Dogfennau Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.53 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5162 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn
cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 5
Chwefror 2013. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod NDM5174 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2013 i gydnabod
rôl a chyfraniad menywod yng Nghymru. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod dewrder menywod sydd wedi cael eu cam-drin am
roi gwybod am ddigwyddiadau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo
strategaeth integredig ar gyfer mynd i'r afael â thrais domestig a rhywiol.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu
nifer y menywod sydd mewn sefyllfa o bwer a dylanwad yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.30 NDM5174 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn dathlu Diwrnod
Rhyngwladol y Menywod 2013 i gydnabod rôl a chyfraniad menywod yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod dewrder menywod sydd wedi cael eu cam-drin am
roi gwybod am ddigwyddiadau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo
strategaeth integredig ar gyfer mynd i'r afael â thrais domestig a rhywiol.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu nifer y menywod sydd
mewn sefyllfa o bwer a dylanwad yng Nghymru. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5174 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn dathlu Diwrnod
Rhyngwladol y Menywod 2013 i gydnabod rôl a chyfraniad menywod yng Nghymru. 2. Yn cydnabod dewrder menywod sydd wedi cael eu cam-drin
am roi gwybod am ddigwyddiadau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo
strategaeth integredig ar gyfer mynd i'r afael â thrais domestig a rhywiol.
3.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o
gynyddu nifer y menywod sydd mewn sefyllfa o bwer a dylanwad yng Nghymru. Derbyniwyd y cynnig fel y’i
diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion Comisiynydd y Gymraeg ar safonau iaith Gymraeg NNDM5176 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. yn nodi bod: (a) y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu peidio symud
ymlaen gyda safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r
Gymraeg; (b) y Gweinidog nawr yn bwriadu adeiladu ar ymgynghoriad
Comisiynydd y Gymraeg, i ddatblygu cyfres o safonau a fydd yn sefydlu hawliau i
siaradwyr Cymraeg, o ran gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg; ac (c) y Gweinidog yn bwriadu gwneud gyda chymeradwyaeth y Cynulliad
Cenedlaethol, reoliadau yn gwneud y gyfres gyntaf o safonau, a gwneud y safonau
hynny yn benodol gymwys i bersonau, erbyn diwedd 2014. Gellir
gweld safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r Gymraeg drwy
ddilyn y linc isod: http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/manylioncyhoeddiad.aspx?publicationid=50faecf9-67bb-4058-af3c-9ecdc6d14739&year=2012
Gellir
gweld ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg drwy ddilyn y linc isod: http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/manylioncyhoeddiad.aspx?publicationid=3b166697-643b-435d-ac82-463543fb5cae&year=2012 Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu ein bod, dros ddwy flynedd ar ôl pasio Mesur y
Gymraeg (Cymru) 2011, yn parhau i fod yn bell iawn o fabwysiadu set ffurfiol o
safonau ar gyfer gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg. Gellir gweld Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, fel y’i
pasiwyd, drwy ddilyn y linc isod: Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen weithredu
fanwl ar gyfer cyflwyno safonau iaith Gymraeg erbyn 2014. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.40 NNDM5176 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. yn nodi: (a) bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu peidio symud
ymlaen gyda safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r
Gymraeg; (b) bod y Gweinidog nawr yn bwriadu adeiladu ar ymgynghoriad
Comisiynydd y Gymraeg, i ddatblygu cyfres o safonau a fydd yn sefydlu hawliau i
siaradwyr Cymraeg, o ran gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg; ac (c) bod y Gweinidog yn bwriadu gwneud, gyda chymeradwyaeth y
Cynulliad Cenedlaethol, rheoliadau yn gwneud y gyfres gyntaf o safonau, a
gwneud y safonau hynny yn benodol gymwys i bersonau, erbyn diwedd 2014. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu ein bod, dros ddwy flynedd ar ôl pasio Mesur y
Gymraeg (Cymru) 2011, yn parhau i fod yn bell iawn o fabwysiadu cyfres ffurfiol
o safonau ar gyfer gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Llywydd
ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio
yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen weithredu
fanwl ar gyfer cyflwyno safonau iaith Gymraeg erbyn 2014. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NNDM5176 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. yn nodi: (a) bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu peidio
symud ymlaen gyda safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r
Gymraeg; (b) bod y Gweinidog nawr yn bwriadu adeiladu ar ymgynghoriad
Comisiynydd y Gymraeg, i ddatblygu cyfres o safonau a fydd yn sefydlu hawliau i
siaradwyr Cymraeg, o ran gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg; ac (c) bod y Gweinidog yn bwriadu gwneud, gyda chymeradwyaeth y
Cynulliad Cenedlaethol, rheoliadau yn gwneud y gyfres gyntaf o safonau, a
gwneud y safonau hynny yn benodol gymwys i bersonau, erbyn diwedd 2014. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen weithredu
fanwl ar gyfer cyflwyno safonau iaith Gymraeg erbyn 2014.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 Yn unol â
Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r
adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Mae’r gwelliannau
wedi cael eu grwpio at ddibenion
y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl
y grwpiau a ganlyn: 28, 29, 14, 26, 15A, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24 2. Cynllun
dirprwyo 2, 3 3. Aelodau
sy’n gyflogeion SAC 4, 5, 6, 7, 25 4. Cynllun
blynyddol 8, 9, 11 5. Paratoi
adroddiadau interim 10, 12, 13 6. Trosglwyddo
staff i SAC 1*, 1A*, 27 * Caiff y gwelliannau
hyn eu gwaredu
yn y drefn a ganlyn—1A, 1 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 17.20 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael
eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt
yn codi yn y Bil. Mae’r gwelliannau wedi cael eu
grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir
yn ôl y grwpiau
a ganlyn: 1. Technegol
a chanlyniadol 28, 29, 14, 26, 15A, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24 2. Cynllun
dirprwyo 2, 3 3. Aelodau
sy’n gyflogeion SAC 4, 5, 6, 7, 25 4. Cynllun
blynyddol 8, 9, 11 5. Paratoi
adroddiadau interim 10, 12, 13 6. Trosglwyddo
staff i SAC 1*, 1A*, 27 * Caiff y gwelliannau hyn eu gwaredu yn
y drefn a ganlyn—1A, 1 Cynhaliwydy pleidleisiau yn y drefn a nodir
yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: Derbyniwyd gwelliant 28 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 29 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Ni chynigwyd gwelliant
25. Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 9 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 1A yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 27 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Ni chynigwyd gwelliant
26. Ni chynigwyd gwelliant
15A. Derbyniwyd gwelliant 15 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 20 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 21 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 22 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 23 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Derbyniwyd gwelliant 24 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn,
gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) Ar ddiwedd
Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47. Os derbynnir ar y cynnig Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 17.50 Ar ddiwedd
Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael
ei basio yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig: Cynnig Cyfnod
4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Archwilio Cyhoeddus
(Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.56 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |