Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.00 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynnau 4 a 13 yn
ôl. Atebwyd cwestiwn 8 gan
y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Ni
chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Penderfyniad: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.51 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd cwestiwn
4 i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Tynnwyd cwestiwn 15 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru NDM5206
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
ar ei ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
22 Ionawr 2013. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ebrill 2013. Dogfennau
ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.40 NDM5206
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi
morol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
22 Ionawr 2013. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5205 William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael
i awdurdodau lleol yn Lloegr rewi'r
dreth gyngor am y drydedd flwyddyn yn olynol. 2.
Yn nodi ymhellach
bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr
Alban rewi'r dreth gyngor ar gyfer
2013/2014; a bod y rhewi hwnnw
wedi bod ar waith ers 2008/2009. 3.
Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau lleol
i wario arian
cyhoeddus gyda gofal a doethineb; gan sicrhau bod cyfraddau'r dreth gyngor mor isel
â phosibl i breswylwyr. 4.
Yn gresynu at wrthodiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid canlyniadol i gynorthwyo awdurdodau lleol i rewi'r dreth gyngor
ledled Cymru; gan roi cymunedau
o dan anfantais o'u cymharu â'r
rhai yn Lloegr
a'r Alban. 5.
Yn gresynu ymhellach bod biliau'r dreth gyngor yng
Nghymru wedi cynyddu 148 y cant ers 1997/1998,
ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi
rhoi pwysau diangen ar aelwydydd
sydd o dan bwysau. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le: Yn credu
mai awdurdodau lleol ddylai benderfynu
ar lefelau gwariant awdurdodau lleol a'r dreth
gyngor, fel rhan o agenda lleoliaeth gynhwysfawr.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu
nad yw'r
dreth gyngor yn system drethiant gynyddol ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio a allai pwerau newydd
sydd wedi’u cynnig gan Gomisiwn
Silk ei galluogi i ddatblygu system drethiant decach i gyllido gwariant awdurdodau lleol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.30 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5205
William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael
i awdurdodau lleol yn Lloegr rewi'r
dreth gyngor am y drydedd flwyddyn yn olynol. 2.
Yn nodi ymhellach
bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr
Alban rewi'r dreth gyngor ar gyfer
2013/2014; a bod y rhewi hwnnw
wedi bod ar waith ers 2008/2009. 3.
Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau lleol
i wario arian
cyhoeddus gyda gofal a doethineb; gan sicrhau bod cyfraddau'r dreth gyngor mor isel
â phosibl i breswylwyr. 4.
Yn gresynu at wrthodiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid canlyniadol i gynorthwyo awdurdodau lleol i rewi'r dreth gyngor
ledled Cymru; gan roi cymunedau
o dan anfantais o'u cymharu â'r
rhai yn Lloegr
a'r Alban. 5.
Yn gresynu ymhellach bod biliau'r dreth gyngor yng
Nghymru wedi cynyddu 148 y cant ers 1997/1998,
ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi
rhoi pwysau diangen ar aelwydydd
sydd o dan bwysau.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le: Yn credu mai awdurdodau
lleol ddylai benderfynu ar lefelau
gwariant awdurdodau lleol a'r dreth
gyngor, fel rhan o agenda lleoliaeth gynhwysfawr.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu
nad yw'r
dreth gyngor yn system drethiant gynyddol ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio a allai pwerau newydd
sydd wedi’u cynnig gan Gomisiwn
Silk ei galluogi i ddatblygu system drethiant decach i gyllido gwariant awdurdodau lleol.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5205
William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael
i awdurdodau lleol yn Lloegr rewi'r
dreth gyngor am y drydedd flwyddyn yn olynol. 2.
Yn nodi ymhellach
bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr
Alban rewi'r dreth gyngor ar gyfer
2013/2014; a bod y rhewi hwnnw
wedi bod ar waith ers 2008/2009. 3.
Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau lleol
i wario arian
cyhoeddus gyda gofal a doethineb; gan sicrhau bod cyfraddau'r dreth gyngor mor isel
â phosibl i breswylwyr. 4.
Yn credu mai awdurdodau lleol ddylai benderfynu
ar lefelau gwariant awdurdodau lleol a'r dreth
gyngor, fel rhan o agenda lleoliaeth gynhwysfawr. 5.
Yn gresynu ymhellach bod biliau'r dreth gyngor yng
Nghymru wedi cynyddu 148 y cant ers 1997/1998,
ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi
rhoi pwysau diangen ar aelwydydd
sydd o dan bwysau.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig
wedi’i ddiwygio. Felly,
gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5202 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a)
adolygu'r rheolau caffael mewn llywodraeth leol i'w gwneud
yn haws i gwmnïau a busnesau lleol gynnig am waith a gwasanaethau a darparu cyrsiau hyfforddi i swyddogion caffael mewn awdurdodau lleol; b)
gweithio gydag
awdurdodau lleol i ddenu cyfleoedd cyflogaeth newydd a sicrhau cymaint o gyflogaeth leol â phosibl pan fydd prosiectau seilwaith mawr ar y gweill;
ac c)
darparu rhagor
o adnoddau i awdurdodau lleol gynnal a chadw eu rhwydwaith
ffyrdd mewn cyflwr da. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt
a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: ‘amlinellu ei
ymrwymiad i gefnogi busnesau lleol i gynnig am gontractau llywodraeth leol;’ Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd is-bwynt b): ‘gan sicrhau
bod y sector preifat lleol,
gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn cymryd rhan
lawn yn y broses hon’ Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu 'ffyrdd’
yn is-bwynt c) a rhoi ‘trafnidiaeth’ yn ei le Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd is-bwynt c): ‘a sicrhau bod ei
phrosiectau rhwydwaith ffyrdd ei hun
yn dangos yr arfer gorau
i awdurdodau lleol, gan osgoi gorwario
diangen a sicrhau gwerth am arian’ Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: ‘cyflwyno deddfwriaeth
i ddatblygu economïau lleol drwy roi
pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol adfywio canol trefi,
ysgogi creu swyddi yn lleol
a chaniatáu i awdurdodau lleol gadw rhywfaint
o’r arian a ddaw o ardrethi busnes er mwyn
ysgogi twf economaidd.’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.31 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5202
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a)
adolygu'r rheolau caffael mewn llywodraeth leol i'w gwneud
yn haws i gwmnïau a busnesau lleol gynnig am waith a gwasanaethau a darparu cyrsiau hyfforddi i swyddogion caffael mewn awdurdodau lleol; b)
gweithio gydag
awdurdodau lleol i ddenu cyfleoedd cyflogaeth newydd a sicrhau cymaint o gyflogaeth leol â phosibl pan fydd prosiectau seilwaith mawr ar y gweill;
ac c)
darparu rhagor
o adnoddau i awdurdodau lleol gynnal a chadw eu rhwydwaith
ffyrdd mewn cyflwr da.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5204 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn credu bod y system gyllido ar gyfer
gofal hirdymor yn y DU wedi bod yn annigonol, yn
annheg ac yn anghynaliadwy yn rhy hir ac yn
croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer ei diwygio. 2.
Yn cydnabod na fu erioed
cymaint o frys o ran yr angen i
sicrhau system gynaliadwy i dalu am ofal
yng Nghymru, gan nodi gyda
phryder: a)
y bydd angen rhywfaint o ofal a chymorth ar dros
wyth o bob deg o bobl 65 oed neu
hŷn yn ddiweddarach yn eu bywydau ac y rhagamcanir y bydd nifer y bobl yng
Nghymru sy'n 65 oed a hŷn wedi dyblu erbyn
2035; b)
yr amcangyfrifir bod dros 17,000 o bobl â dementia yng Nghymru ar
hyn o bryd a rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn
cynyddu 31% dros yr 20 mlynedd nesaf; c)
bod un o bob tri o bobl, yn
ôl ymchwil ar ddefnyddwyr gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain, yn credu bod ‘gofal
i’w gael am ddim fel y mae’r
GIG’ ac nad oes diben cynllunio ar gyfer costau
gofal hirdymor yn y dyfodol; d)
y bydd un o bob deg o deuluoedd yn wynebu
costau gofal o £100,000 neu fwy yn
ystod eu hoes, fel yr amlygwyd
gan Gomisiwn Dilnot. 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i amlinellu’r egwyddorion
allweddol a fydd yn sail i system newydd o gyllido gofal yng Nghymru
a chadarnhau'r cyllid canlyniadol Barnett a fydd yn deillio o'r
cyhoeddiad ar gyllido gofal cymdeithasol
yn Adolygiad o Wariant 2013. 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddefnyddio argymhellion
Comisiwn Dilnot fel sail ar gyfer
diwygio cyllid gofal cymdeithasol yng Nghymru ar
frys, gan gynnwys: a)
sicrhau bod pobl wedi'u diogelu rhag costau uchel
eu gofal cymdeithasol; b)
cyflwyno cynllun â chost wedi'i chapio
ac ymestyn trothwy'r profion modd; c)
ymestyn y cynllun taliadau gohiriedig i bob un y mae'n ofynnol iddo dalu
am ofal preswyl; d)
cyflwyno Fframwaith Cymhwysedd Cenedlaethol i wella cysondeb
y cymorth; e)
sicrhau bod y rhai a ddaw’n oedolion ac sydd ag angen
gofal a chymorth eisoes yn gymwys
i gael cymorth
am ddim gan y wladwriaeth i ddiwallu
eu hanghenion gofal; f)
gwella argaeledd a hygyrchedd gwybodaeth a chymorth i bobl
ddeall eu hopsiynau a pharatoi a chynllunio am gostau gofal. Gellir gweld
argymhellion Comisiwn Dilnot drwy fynd
i: http://www.ilis.co.uk/uploaded_files/dilnott_report_the_future_of_funding_social_care_july_2011.pdf Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: ‘Yn cydnabod methiant
Llywodraethau dilynol y Cynulliad o ran darparu cymorth teg a fforddiadwy
i bobl agored
i niwed ag
anghenion gofal cymdeithasol.’ Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt
1, dileu popeth ar ôl ‘yn
rhy hir’. Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le: ‘Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a)
Sefydlu atebion interim tecach i ffioedd
gofal cymdeithasol, sy’n adlewyrchu anghenion Cymru, o fewn yr adnoddau
sydd ar gael
ar hyn o bryd. b)
Sicrhau bod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud
darpariaeth ariannol ddigonol ar gyfer
cynnal teuluoedd a gofalwyr anffurfiol eraill yn y tymor
hir. c)
Sicrhau bod modd cyllido gofal cymdeithasol
yn gynaliadwy, ac yn credu y byddai
sefydlu fformiwla cyllido gyda Llywodraeth
y DU sy’n adlewyrchu anghenion Cymru yn helpu i
ddarparu’r adnoddau sy’n angenrheidiol i gyflawni hyn.’ Mae’r Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant i’w weld drwy ddilyn y linc
a ganlyn: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5664 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 17.27 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5204 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn credu bod y system gyllido ar gyfer
gofal hirdymor yn y DU wedi bod yn annigonol, yn
annheg ac yn anghynaliadwy yn rhy hir ac yn
croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer ei diwygio. 2.
Yn cydnabod na fu erioed cymaint o frys o ran yr angen
i sicrhau system gynaliadwy
i dalu am ofal yng Nghymru, gan
nodi gyda phryder: a)
y bydd angen rhywfaint o ofal a chymorth ar dros
wyth o bob deg o bobl 65 oed neu
hŷn yn ddiweddarach yn eu bywydau ac y rhagamcanir y bydd nifer y bobl yng
Nghymru sy'n 65 oed a hŷn wedi dyblu erbyn
2035; b)
yr amcangyfrifir bod dros 17,000 o bobl â dementia yng Nghymru ar
hyn o bryd a rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn
cynyddu 31 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf; c)
bod un o bob tri o bobl, yn
ôl ymchwil ar ddefnyddwyr gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain, yn credu bod ‘gofal
i’w gael am ddim fel y mae’r
GIG’ ac nad oes diben cynllunio ar gyfer costau
gofal hirdymor yn y dyfodol; d)
y bydd un o bob deg o deuluoedd yn wynebu costau
gofal o £100,000 neu fwy yn ystod
eu hoes, fel yr amlygwyd gan
Gomisiwn Dilnot. 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i amlinellu’r egwyddorion allweddol a fydd yn sail i system newydd o gyllido gofal yng
Nghymru a chadarnhau'r cyllid canlyniadol Barnett a fydd yn deillio
o'r cyhoeddiad ar gyllido gofal
cymdeithasol yn Adolygiad o Wariant 2013. 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddefnyddio argymhellion Comisiwn Dilnot fel sail ar gyfer
diwygio cyllid gofal cymdeithasol yng Nghymru ar
frys, gan gynnwys: a)
sicrhau bod pobl wedi'u diogelu
rhag costau uchel eu gofal
cymdeithasol; b)
cyflwyno cynllun
â chost wedi'i chapio ac ymestyn trothwy'r profion modd; c)
ymestyn y cynllun taliadau gohiriedig i bob un y mae'n ofynnol iddo dalu
am ofal preswyl; d) cyflwyno
Fframwaith Cymhwysedd Cenedlaethol i wella cysondeb y cymorth; e)
sicrhau bod y rhai a ddaw’n oedolion
ac sydd ag angen gofal a chymorth
eisoes yn gymwys i gael cymorth
am ddim gan y wladwriaeth i ddiwallu eu hanghenion gofal; f)
gwella argaeledd
a hygyrchedd gwybodaeth a chymorth i bobl ddeall eu hopsiynau
a pharatoi a chynllunio am gostau gofal.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: ‘Yn cydnabod methiant
Llywodraethau dilynol y Cynulliad o ran darparu cymorth teg a fforddiadwy
i bobl agored i niwed ag
anghenion gofal cymdeithasol.’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl
‘yn rhy hir’. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le: ‘Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a)
Sefydlu atebion interim tecach i ffioedd gofal cymdeithasol, sy’n adlewyrchu anghenion Cymru, o fewn yr adnoddau
sydd ar gael ar hyn
o bryd. b)
Sicrhau bod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud
darpariaeth ariannol ddigonol ar gyfer
cynnal teuluoedd a gofalwyr anffurfiol eraill yn y tymor
hir. c) Sicrhau
bod modd cyllido gofal cymdeithasol yn gynaliadwy, ac yn credu y byddai
sefydlu fformiwla cyllido gyda Llywodraeth
y DU sy’n adlewyrchu anghenion Cymru yn helpu i ddarparu’r
adnoddau sy’n angenrheidiol i gyflawni hyn.’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio,
ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd
y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5203 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): ‘Why
not Dilnot?’ Talu am ofal cymdeithasol i’r henoed yng
Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.17 NDM5203
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru): ‘Why not Dilnot?’ Talu am ofal cymdeithasol i’r henoed yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |